Ymwelodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, â Wrecsam heddiw i weld rhaglen cynnal a chadw ffyrdd y Cyngor ar waith.
Fe wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod cynghorwyr a swyddogion i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo ar yr A539 yn Rhiwabon.
Mae’r A539 yn ffurfio cyswllt hanfodol ar y rhwydwaith o ffyrdd A trwy Wrecsam gan gysylltu canolfannau trefol Rhiwabon, cyn mynd ymlaen i Owrtyn a thu hwnt i Swydd Amwythig. Mae’r cyswllt pwysig hwn yn arwain yn uniongyrchol i’r A483 yng nghyffordd 1.
Fel sawl rhan o’n rhwydwaith o ffyrdd A, mae’r cyswllt hwn yn dirywio’n gyflym ac er gwaethaf nifer o ymdrechion i liniaru’r gwaethaf o’r diffygion, mae’r ffordd wedi’i hamlygu ar gyfer gwaith atgyweirio mwy sylweddol.
Mae gennyn ni nifer o ddiffygion presennol ar y darn hwn o ffordd ac, eleni, rydyn ni’n bwriadu ymgymryd â phrosiect peilot o waith cynnal a chadw ataliol ar y llwybr, gan obeithio defnyddio’r cyllid sydd ar gael trwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol sydd wedi’i hailgyflwyno.
Cyn i’r mesurau cynnal a chadw ataliol gael eu gwneud, mae gennyn ni raglen o atgyweiriadau clytiau ar y llwybr hwn. Mae ychydig o waith atgyweirio ymatebol ar hyd y llwybr wedi’i gwblhau eisoes ac mae’r rhan sydd wedi’i hamlygu uchod wedi’i chlustnodi ar gyfer gwaith atgyweirio yr wythnos hon.
Mae gennyn ni waith cynnal a chadw ataliol pellach wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd Gorffennaf / dechrau Awst eleni, gan dreialu rhaglen o glytio jet gyda’r A539 yn un o’n safleoedd ymgeisiol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Trafnidiaeth Strategol, “Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n croesawu bod y fenter ariannu wedi dychwelyd sy’n galluogi benthyca gan Lywodraeth Leol i wella ein rhaglen Cynnal a Chadw Seilwaith.
“Yn anffodus, mae angen buddsoddiad ar seilwaith ar draws Wrecsam ac ar draws rhannau helaeth o Gymru a’r Deyrnas Unedig ac mae unrhyw gyfle ariannu yn cael ei groesawu.
“Yn Wrecsam, mae ein swyddogion wedi datblygu rhaglenni arloesol ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ac, unwaith eto, rydyn ni’n edrych ymlaen at y prosiect peilot sy’n hyrwyddo cynnal a chadw ataliol ar y llwybr hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Fel David, rydw i’n croesawu’r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol.
“Fel Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, cynnal a chadw seilwaith yw’r mater mwyaf arwyddocaol mae aelodau etholedig a chymunedau yn ei godi gyda mi.
“Mae’r swyddogion wedi gweithio’n galed i ddatblygu atebion ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd ac rydw i’n hyderus y bydd y gwaith hwn yn Rhiwabon yn helpu defnyddwyr y ffordd yn gyffredinol a chymuned leol Rhiwabon.”




