Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Profi, Olrhain, Diogelu – mae yno i’n diogelu ni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Profi, Olrhain, Diogelu – mae yno i’n diogelu ni
Y cyngor

Profi, Olrhain, Diogelu – mae yno i’n diogelu ni

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 14, 2020 3:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Covid-19
RHANNU

Yn un o’i gyflwyniadau cyhoeddus Covid-19 yr wythnos diwethaf bu i’r Prif Weinidog nodi yn glir bod y sefyllfa yma yng Nghymru wedi “dirywio hyd yn oed ymhellach”. Mae hwn yn ddatganiad difrifol iawn ynghylch sefyllfa ddifrifol iawn ac yn un y dylem gymryd sylw ohono wrth i ni nesáu at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Cynnwys
  • Atebion i’ch cwestiynau
    • PROFI
    • OLRHAIN
    • DIOGELU

Nid oes yr un ohonom eisiau bod yn gyfrifol am ledaenu’r feirws ond mae un peth y gallwn i gyd ei wneud i helpu’r sefyllfa sef cymryd sylw gofalus o’r system Profi, Olrhain, Diogelu sy’n weithredol yng Nghymru.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Bu mewn lle ers mis Mai a bu’n llwyddiannus iawn wrth brofi ac olrhain y bobl hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif ar gyfer Covid-19.

Atebion i’ch cwestiynau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor defnyddiol iawn ynghylch y broses Profi, Olrhain a Diogelu y gallwch edrych arnynt yma ond y prif bwyntiau yw:

PROFI

  • adnabod y rheiny sydd â symptomau sy’n gyson â COVID-19, gan eu galluogi i gael prawf tra’n ynysu rhag teulu ehangach, ffrindiau a’u cymuned

OLRHAIN

  • olrhain yr unigolion hynny sydd wedi bod mewn cyswllt agos gyda’r sawl sydd wedi profi’n bositif ar unrhyw achlysur yn ystod cyfnod yn cychwyn hyd at ddeuddydd cyn iddynt ddechrau cael symptomau, a gofyn iddynt gymryd rhagofalon a hunan-ynysu (am 10 diwrnod)

DIOGELU

  • darparu cyngor ac arweiniad, yn arbennig pan fo’r unigolyn wedi cael prawf positif neu fod eu cysylltiadau’n agored i niwed neu mewn mwy o berygl. Bydd hyn yn cynnwys cael prawf os oes gennych symptomau a hunan-ynysu am 10 diwrnod. Hyd yn oed os ydych yn cael prawf negyddol gan y gall y feirws gymryd sawl diwrnod i ddatblygu.

Mae’n hynod bwysig eich bod yn cael prawf os oes gennych symptomau, waeth pa mor ysgafn, darparu manylion cyswllt cywir y rhai rydych wedi bod mewn cyswllt agos â hwy a hunan-ynysu pan eich cynghorir i wneud hynny.

Mae cymorth ar gael i unrhyw un a fydd yn dioddef yn ariannol megis peidio â gallu mynd i’r gwaith oherwydd y dywedir wrthynt am hunan-ynysu. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yma: https://llyw.cymru/cynllun-cymorth-hunanynysu

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r sefyllfa ledled Cymru ac yma yn Wrecsam yn ddifrifol. Mae pob tebygolrwydd y bydd cyfyngiadau mwy dwys yn y flwyddyn newydd a nawr yw’r amser y dylem sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i leddfu’r cyfyngiadau hynny. Mae Profi, Olrhain a Diogelu yn ein helpu i gadw yn ddiogel rhag y feirws ond rhaid i ni ddilyn y cyngor a roddir er mwyn iddo fod yn llwyddiannus. Gwnewch bopeth y gallwch i gadw Wrecsam yn ddiogel.”

Dywedodd Arolygydd Tref Wrecsam, Vic Powell: “Fel cymuned ein swyddogaeth ni yw cadw pobl yn ddiogel ond hefyd mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i’n gilydd, ein teuluoedd a’n cymunedau sef bod yn ymwybodol o beth sydd angen i ni ei wneud, pryd sydd angen i ni ei wneud a sut i gael cymorth os na allwn weithio. Ni allwn blismona feirws anweladwy ond gallwn egluro, annog a ble fo angen cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw sy’n mynd yn erbyn y canllawiau. Helpwch ni i gadw pawb yn ddiogel a dilyn a gweithredu ar yr holl gyngor a roddir”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Roadworks Christmas Dim gwaith ffordd dros gyfnod y Nadolig
Erthygl nesaf Virtual Museum Dewch i weld Amgueddfa Wrecsam – Ar y We

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English