Bydd nifer ohonoch chi’n prynu eich anrhegion Nadolig dros yr wythnosau nesaf, ond gyda’r cynnydd o ran gwerthiant ar-lein, mae risg efallai na fyddwch chi’n prynu teganau diogel neu ddilys.
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu chi:
Ceisiwch wybod gan bwy ydych chi’n prynu teganau
Lle bynnag byddwch chi’n siopa, cofiwch fod enw da yn bwysig. A oes gan y gwerthwr enw da am werthu teganau diogel a dibynadwy?
Ceisiwch gael gymaint â phosib o wybodaeth am y gwerthwr, yn enwedig os ydych chi’n prynu o fan gwerthu ar-lein.
Nid yw popeth a gaiff ei werthu ar blatfform ar-lein wedi’i gyflenwi ganddyn nhw. Os nad yw’r cyflenwr yn seiliedig yn y DU, mae’n bosibl y byddwch chi’n wynebu mwy o risgiau.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Darllenwch y rhybuddion a’r cyfarwyddiadau
Mae’n rhaid i deganau gael eu marcio’n glir â chyfyngiadau oedran, sy’n seiliedig ar risgiau fel peryglon tagu.
Dilynwch yr argymhellion oedran bob amser.
Ystyriwch anghenion arbennig
Mae’n bosibl y bydd plant ag anghenion arbennig yn fwy agored i niwed, felly cadwch hyn mewn cof wrth siopa.
Ceisiwch osgoi teganau gyda darnau bach
Gallant fod yn berygl tagu.
Gwyliwch am beryglon tagu
Gall rhubanau rhydd ar deganau a gwisgoedd beri perygl i blant ifanc.
Cymharwch y gwerthwyr
Mae’n bosibl y bydd bargeinion yn rhy dda i fod yn wir. Cymharwch bris y tegan gyda gwerthwyr eraill. Os yw’r pris yn is o lawer, mae’n debygol o fod yn ffug.
Gwyliwch am fatris botwm
Sicrhewch fod unrhyw fatris botwm mewn tegan yn ddiogel y tu ôl i labed wedi’i gau â sgriwiau.
Gwiriwch am achosion o gynnyrch yn cael eu galw’n ôl
Gallwch wirio a yw’r tegan rydych chi’n ei brynu wedi’i alw’n ôl trwy fynd i productrecallcampaign.gov.uk
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL