Bydd gan ganol tref Wrecsam thema ryngwladol rhwng dydd Iau 17 a dydd Sadwrn 19 Chwefror pan fydd Marchnad Gyfandirol yn agor.
Gallwch ddisgwyl dod o hyd i gymysgedd o fasnachwyr rhyngwladol a fydd yn cynnwys llawer o opsiynau bwydydd stryd i’ch temtio yng nghanol y dref.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd cyfle i grwydro o amgylch y stondinau yn gwerthu Olifau, Cnau a Baklava, Churros a melysion, Gyros, cacennau caws, Brownis a Waffls, Nwdls Dwyreiniol, bwydydd Mecsicanaidd a Charibïaidd yn ogystal â chrefftau cynhenid, gemwaith dur a chelf a chrefftau pren.
Mae gan bob stondin bwyd gyfradd bwyd awdurdod lleol o 4 neu 5. ????????
Mae’r farchnad yn agor am 10am bob dydd ac yn cau am 6pm.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio, “Mae pawb yn mwynhau marchnad ac ni fydd hwn yn eithriad.
“Mae marchnadoedd sy’n ymweld bob amser yn cael croeso ac yn llwyddiannus yn Wrecsam ac edrychaf ymlaen at weld eu stondinau wedi eu gosod yn barod i fasnachu.”
Cofiwch fod parcio am ddim ar ôl 11am ym mhob maes parcio yng nghanol y dref ar wahân i Tŷ Pawb.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL