Mae rhaglen llawn adloniant yn cael ei threfnu ar gyfer un o brif wyliau llenyddol Cymru. Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam wedi dod yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr llenyddol yng Nghymru a’r gororau gan atynnu nifer eang o awduron adnabyddus. Cynhelir gŵyl 2023 rhwng 22-29 Ebrill ac mae sawl awdur adnabyddus eisoes wedi cytuno i ymddangos mewn lleoliadau lleol.
Bydd Erica James a Lucy Diamond, awduron poblogaidd y Sunday Times, ymysg prif awduron gŵyl 2023, sydd wedi gwerthu dros 7 miliwn o lyfrau ledled y byd rhyngddynt. Mae darllenwyr llyfrau Erica James wrth eu boddau â’r perthnasoedd hyfryd, y straeon pwerus yn emosiynol a’r lleoliadau atgofus a geir yn ei gwaith. Mae The Best Days of Our Lives, y nofel ddiweddaraf i’w chyhoeddi gan Lucy Diamond, yn nofel llawn caredigrwydd, gobaith a chalonogol am deulu, colled a chariad.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Bydd yr Ŵyl yn falch o groesawu Sophie Pavelle, y cyfathrebydd gwyddoniaeth anturus a’r awdur, sydd wedi ennill enw da rhagorol ar draws y sector cadwraeth. Daw Sophie o hyd i ffyrdd creadigol o ddweud stori, ychwanegu elfennau cyfoes at y genre hanes natur, fel sydd i’w weld mewn llyfr diweddar ganddi Forget Me Not: Finding the Forgotten Species of Climate Change Britain.
Cynhelir noson ffuglen hanesyddol arbennig ar gyfer ail-fyw “Vikings and the Last Kingdom” a fydd yn cynnwys yr awduron adnabyddus Matthew Harffy (The Bernicia Chronicles) ac Angus Donald (cyfresiThe Outlaw Chronicles a The Fire Born ). Yn ôl y sôn, mae’r trefnwyr yn cadw un digwyddiad arbennig yn gyfrinach, sy’n cynnwys Bernard Cornwell, yr awdur adnabyddus yn rhyngwladol (Sharpe a The Last Kingdom)!
Mae llyfrau Mike Gayle yn cynnwys pobl gyffredin sy’n troi’n eithriadol. Ers ei lwyddiant gyda My Legendary Girlfriend, mae Mike wedi ysgrifennu 12 llyfr yn y genre llenyddiaeth llefnyn (lad lit).
Bydd modd i’r rhai sy’n hoff o ffuglen drosedd gwrdd â Conrad Jones, awdur trosedd cyfareddol (Anglesey Murderers) a Tim Weaver (David Raker, ymchwiliwr pobl sydd ar goll), meistr medrus y newidiadau anrhagweladwy mewn lleoliad. Bydd y noson Dirgelwch Llofruddiaeth yn cynnwys sgript a ysgrifennwyd gan Ann Cleves (Shetland).
Bydd barddoniaeth yn cael ei chynrychioli’n dda gan Aled Lewis Evans, y bardd lleol, a fydd yn rhannu darlleniadau o farddoniaeth Saesneg a’r Viva Voce hynod boblogaidd i feirdd lleol. Bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, hefyd yn gwneud ymddangosiad arbennig.
Bydd Meinir Pierce Jones, awdur adnabyddus yn Gymraeg, yn siarad am Capten, y llyfr a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Bydd cyfle i lenorion lleol a darpar awduron fynychu digwyddiad am ddim i gwrdd ag awduron, beirdd, blogwyr, newyddiadurwyr a chyfansoddwyr lleol a chymryd rhan mewn sesiynau panel gweithredol yn ystod y Carwsél Ysgrifenwyr.
Estynnir croeso cynnes i deuluoedd i ddigwyddiad Straeon i’r Teulu am ddim yn Llyfrgell Wrecsam, Ddydd Sadwrn 22 Ebrill.
Dywedodd Dylan Hughes, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “mae’r ŵyl yn dychwelyd eleni’n llawn bwrlwm, gyda rhaglen gyffrous ac amrywiol o ddigwyddiadau, ac edrychwn ymlaen at gynnal wythnos wych ar gyfer darllenwyr ac unigolion lleol sy’n caru llyfrau.
Ceir y newyddion diweddaraf am Ŵyl 2023 ac ein blogiau rheolaidd ar https://wrexhamcarnivalofwords.com/cy
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI