Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhagor o awgrymiadau defnyddiol i ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhagor o awgrymiadau defnyddiol i ailgylchu
Y cyngor

Rhagor o awgrymiadau defnyddiol i ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: 2019/10/18 at 10:51 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Foil Recycling Handy Tips
RHANNU

Gan fod ein hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer ailgylchu plastig ac ailgylchu gwastraff bwyd wedi bod yn boblogaidd iawn, roeddem ni’n meddwl y byddai’n syniad da rhoi rhagor o awgrymiadau defnyddiol i chi er mwyn i chi barhau i wneud eich rhan ar gyfer Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym ni’n parhau i roi awgrymiadau ailgylchu i wneud pethau’n fwy clir i bobl o ran pa eitemau y gellir eu hailgylchu yn Wrecsam. Rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yn eu mabwysiadu ac yn defnyddio’r wybodaeth i wneud dewisiadau gwybodus am y deunyddiau maent yn ei brynu, gan ailddefnyddio cymaint ag y gallant a pheidio â phrynu pethau nad oes modd eu hailgylchu lle bo hynny’n bosibl”.

Felly gyda hynny mewn golwg, dyma rywfaint o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu 🙂

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Awgrymiadau defnyddiol

• Peidiwch â phrynu pethau munud olaf. Ydi, mae prynu eitemau tra byddwch chi hwnt ac yma yn broblem fawr ac yn aml mae’n golygu deunyddiau na ellir eu hailgylchu a phlastig untro. Fel arfer fe ddaw prydau tec-awê a ‘bargeinion bwyd’ gyda ffilmiau plastig a deunydd pacio polystyren na allwn eu hailgylchu. Mae prynu poteli dŵr tra byddwch chi allan yn ychwanegu at y broblem hefyd. Mae cynllunio ymlaen llaw a mynd â phecyn cinio gyda chi yn llawer gwell, a gadewch i ni fod yn onest, maen rhatach hefyd. Mae prynu potel ddŵr y gallwch ei hailddefnyddio a’i llenwi gyda dŵr tap cyn i chi fynd allan yn welliant mawr hefyd.

Awgrym: Mae oddeutu miliwn o bobl yn prynu potel o ddŵr bob munud, ond mae hyn yn ychwanegu at y broblem blastig. Prynwch botel y gallwch ei defnyddio dro ar ôl tro a’i llenwi â dŵr tap – byddwch yn helpu’r amgylchedd ac yn arbed arian. #ailgylchu #wythnosailgylchu pic.twitter.com/iJF5vEZJUc

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) September 26, 2019

• Caeadau metel mewn tuniau pan fyddwch chi’n eu hailgylchu. Rhywbeth y gallwch ei wneud i’n helpu ydi rhoi caeadau tin metel yn ôl y tu mewn i’r tin pan fyddwch chi’n eu hailgylchu. Mae hyn yn helpu oherwydd pan fo’r metel yn cael ei wasgu yn y ganolfan ailgylchu, yn aml mae’r caeadu sydd heb eu rhoi nôl yn y tin yn llithro allan o’r swp oherwydd eu maint.

• Compostio gartref. Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am y tâl am fin gwyrdd a fydd yn cael ei gyflwyno’r flwyddyn nesaf. Oherwydd toriadau, bu’n rhaid i ni gyflwyno’r tâl yma, ac rydym wedi ceisio ei gadw mor isel â phosibl yn £25 fesul bin gwyrdd; un o’r rhataf yng Nghymru a Lloger. Gobeithio y byddwn yn parhau i gasglu’ch bin gwyrdd, ond os ydych chi’n ystyried peidio â rhoi eich bin allan i gael ei gasglu, efallai bod compostio gartref yn rhywbeth y gallech ei ystyried. Tarwch olwg ar y canllaw compostio gartref yma i roi syniad i chi.

• Mae gwydr yn bwysig. Efallai nad yw gwydr yn cael cymaint o sylw â rhai o’r deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu, ond mae’n bwysig hefyd. Mae ailgylchu gwydr 33% yn fwy effeithlon o ran ynni na chreu gwydr gan ddefnyddio deunyddiau newydd, ac fel alwminiwm gellir ailgylchu gwydr drosodd a throsodd.

• Gellir ailgylchu ffoil glân. Wyddoch chi y gellir ailgylchu ffoil glân yn eich bocs gwyrdd/bocs olwynion canol gyda’ch deunyddiau tin a phlastig. Mae’n rhaid iddo fod yn ffoil glân neu fel arall fe fydd yn halogi eich deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu.

Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019

• Gwiriwch os oes modd ei ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu. Os na allwch ei ailgylchu yn eich bocsys/bagiau ailgylchu, efallai gallwch eu hailgylchu yn un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam. Gallwch ailgylchu llawer o ddeunyddiau gwahanol yma, yn cynnwys olew coginio sydd wedi’i ddefnyddio! Tarwch olwg ar y blog yma sydd yn sôn am y deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu.

Felly, oedd yr awgrymiadau yma’n ddefnyddiol? Cadwch olwg gan ein bod yn bwriadu rhannu mwy yn y dyfodol agos.

Fel bob amser, diolch i chi am ailgylchu 🙂

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Talent Artistig Ifanc Wrecsam yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb Talent Artistig Ifanc Wrecsam yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio? Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English