Bydd Parks and Wrex – y prosiect sy’n ceisio creu gofod cymunedol bywiog ar Stryt Henblas – yn Tŷ Pawb fory i holi’r cyhoedd beth yw eu barn ar y syniadau cychwynnol.
Nod y prosiect yw trawsnewid hen safle’r Hippodrome yng nghanol y ddinas yn ofod cyhoeddus bywiog. Cyhoeddwyd fis Hydref y llynedd y byddai perchennog CPD Wrecsam, Rob McElhenney, yn gweddnewid y safle fel teyrnged i’w ffrind gorau a’r cyd-berchennog, Ryan Reynolds.
Mae arweinydd y prosiect, Bryan Swarberg, yn annog pobl i fynd i Tŷ Pawb fory i gwrdd â’r tîm a gofyn cwestiynau. Meddai: “Y prif nod yw cael barn busnesau lleol a’r gymuned ar ein syniadau a’n bwriadau a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu dylanwadu ar y gofod cyn i ni ddechrau’r broses gynllunio. Byddwn yma i ateb unrhyw gwestiwn ac i wrando ar bryderon.”
Gallwch alw heibio i gwrdd â’r tîm a dysgu mwy am y cynlluniau rhwng 11am a 2pm ddydd Gwener 15 Mawrth.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn ac yn enghraifft arall o sut mae Rob a Ryan yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn Wrecsam. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda gyda’n huchelgeisiau creu lleoedd yng nghanol y ddinas, ac mae’r cynigion cynnar i ddatblygu’r safle’n ofod cymunedol yn ddiddorol iawn. Felly dewch draw i Tŷ Pawb i rannu’ch barn a’ch syniadau gyda thîm y prosiect.”
Fe allwch chi ganfod mwy o wybodaeth am y prosiect ar wefan Parks and Wrex.