Fis nesaf (o 6 Ebrill 2024) bydd yn ofynnol o dan y gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru i ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Er mwyn helpu busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i wybod beth yw’r diweddaraf am y newidiadau, mae WRAP Cymru wedi creu cyfres o weminarau llawn gwybodaeth sydd yn benodol i sectorau gwahanol.
Fe’ch gwahoddir i wylio cynifer o weminarau ag sy’n berthnasol i’ch busnes, gan y gallai rhai elfennau fod yn gyffredin. Mae’r gweminarau yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr gwadd sydd yn rhannu eu profiadau o weithredu casgliadau ar wahân yn eu heiddo, gan roi arweiniad ymarferol.
Mae’r recordiadau o’r weminarau canlynol bellach ar gael i’w gwylio:
Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)
Adloniant a hamdden (yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau)
Manwerthu
Lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal)
Gwasanaethau bwyd a lletygarwch
Casglwyr gwastraff
Digwyddiadau yn yr awyr agored
Lleoliadau addysg a phrifysgolion
You can also learn more on WRAP Cymru’s The Business of Recycling Wales page.
Crynodeb o’r newidiadau
Pa wastraff sydd angen ei wahanu
Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol i’w casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a cherdyn
- Gwydr
- Metelau, plastig a chartonau
- Tecstilau sydd heb eu gwerthu
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)
Bydd gwaharddiad hefyd ar:
- Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
- Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi
I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol
Bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Safleoedd amaethyddol
- Lletygarwch a thwristiaeth – bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
- Meysydd sioe
- Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
- Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
- Trafnidiaeth – gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
- Cartrefi gofal a nyrsio
- Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
- Safleoedd adeiladu
- Ffatrïoedd a warysau
- Garejis ceir
- Addysg – prifysgolion, colegau ac ysgolion
- Canolfannau garddio
- Adeiladau treftadaeth
- Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
- Swyddfeydd a gweithdai
- Mannau addoli
- Carchardai
- Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored
Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw’r GIG ac ysbytai preifat.
Mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (dolen gyswllt allanol).
Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1! – Newyddion Cyngor Wrecsam