Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd plentyn ac mae’n hanfodol bwysig er mwyn mwynhau plentyndod.
Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, mae plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd, gan gyfrannu at les corfforol ac emosiynol. Mae chwarae yn bwysig i bob plentyn waeth beth yw eu hamhariadau neu ymddygiad.
Yn 2012, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyfraith sy’n golygu bob rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal asesiad bob tair blynedd o gyfleoedd plant i chwarae yn eu cymunedau lleol.
Mae angen eich help arnom!
Llenwch yr arolwg byr hwn i’n cynorthwyo i greu darlun o’r sefyllfa i blant sy’n chwarae yn Wrecsam ar hyn o bryd.
Trwy lenwi a rhannu ein harolwg byddwch yn ein helpu ni i greu darlun o’r cyfleoedd a rhwystrau sydd yna i blant chwarae yn yr ardal. Yna byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i geisio dod o hyd i ffyrdd o ddiogelu a gwella amser a gofod i blant allu chwarae yn Wrecsam.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi; “Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad a lles plant. Rydym yn ymroddedig yn Wrecsam i ddarparu cyfleoedd diogel i blant i chwarae. Trwy lenwi’r arolwg, bydd rhieni a gofalwyr yn ein cynorthwyo i ddod o hyd i ffyrdd i wella ac amddiffyn chwarae yn Wrecsam.
Mae’r arolwg yn cau ar 4 Mawrth, felly cofiwch ei lenwi rŵan cyn ei bod hi’n rhy hwyr!
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR