Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhoi hwb gwerth £120,000 i Fanc Bwyd Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhoi hwb gwerth £120,000 i Fanc Bwyd Wrecsam
Arall

Rhoi hwb gwerth £120,000 i Fanc Bwyd Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2025 12:24 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Pentyrrau o flychau storio yn Warws Banc Bwyd Wrecsam
RHANNU

Diolch i Gyllid Cymorth Brys Llywodraeth Leol yng Nghymru, mae £60,000 y flwyddyn yn cael ei ddarparu gan Gyngor Wrecsam i Fanc Bwyd Wrecsam ar gyfer y blynyddoedd 2025-26 a 2026-27.

Mae’r cymorth ariannol hwn yn cael ei roi yn dilyn argymhelliad a chymeradwyaeth gan y Swyddog Costau Byw a’r Gweithgor Aelodau a’r Bwrdd Gweithredol yn ystod mis Tachwedd 2025.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Swyddog Costau Byw a’r Gweithgor Aelodau, “Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gan Fanc Bwyd Wrecsam i brynu cyflenwadau bwyd ac offer storio ychwanegol,gan ehangu eu gallu i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid sy’n teimlo effaith yr argyfwng costau byw yn uniongyrchol.”

Beth mae’r Banc Bwyd yn ei wneud

Trwy system atgyfeirio talebau, mae’r Banc Bwyd yn darparu o leiaf dri diwrnod o fwyd brys.

Mae unrhyw un sy’n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae’n cael trafferth talu costau bwyd yn gallu cysylltu ag asiantaeth atgyfeirio am gymorth. (Mae hyn yn cynnwys llawer o wahanol gysylltiadau atgyfeirio megis swyddogion cymorth tai, canolfannau plant, ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol.)

Yna mae’r asiantaeth leol yn gallu rhoi taleb fwyd i chi, y gallwch chi fynd â hi i unrhyw un o’r 8 canolfan banc bwyd yn Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol dros Dlodi, “Wrth i ni ddechrau’r gaeaf eto, rydyn ni’n cydnabod mai dyma adeg o’r flwyddyn lle mae pwysau ariannol sylfaenol yn aml yn cynyddu, yn enwedig gyda chostau gwresogi; ac mae hyn yn gallu effeithio hefyd ar faint o fwyd mae aelwyd yn gallu ei fforddio. Mae Banc Bwyd Wrecsam yn fenter hanfodol sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu tlodi bwyd, gan roi hwb i wydnwch cymunedol trwy ei waith parhaus.”

Dywedodd Suzanne Nantcurvis, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Banc Bwyd Wrecsam, “Fel sefydliad rheng flaen sy’n mynd i’r afael â thlodi yn ein cymuned, mae Banc Bwyd Wrecsam yn falch bod Cyngor Wrecsam wedi cydnabod gwaith a gweledigaeth y Banc Bwyd trwy ddyfarnu’r lefel sylweddol hon o gyllid ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn ein galluogi i brynu cyflenwadau bwyd i gefnogi cleientiaid mewn sefyllfaoedd argyfwng ac yn rhoi cynaliadwyedd mawr ei angen i ni o ystyried ein bod wedi gwario £42k ar brynu bwyd ar gyfer ein parseli brys yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

“Ar ben hynny, mae’r cyllid yn ein galluogi i fod yn flaengar yn ein dull strategol gan ein bod yn chwilio am atebion tymor hir i gleientiaid yn hytrach na chanolbwyntio ar reoli argyfwng.”


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Dros 66? Gwiriwch a allech gael hwb i’ch incwm trwy Gredyd Pensiwn

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb – Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!

Menter Mannau Cynnes yn dychwelyd i lyfrgelloedd Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Y cyfleoedd swyddi diweddaraf yng Nghyngor Wrecsam Y cyfleoedd swyddi diweddaraf yng Nghyngor Wrecsam
Erthygl nesaf Tŷ Pawb yn bweru i'r dyfodol wrth i baneli solar newydd fynd yn fyw Tŷ Pawb yn bweru i’r dyfodol wrth i baneli solar newydd fynd yn fyw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
The Longest Yarn 2
ArallDigwyddiadau

Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English