Dewiswyd ysgol uwchradd yn Wrecsam i gymryd rhan mewn cynllun peilot ar draws Cymru o raglen arloesol sydd wedi’i dylunio i annog merched i gymryd rhan mewn addysg gorfforol trwy bêl-droed, a datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau byw.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae Ysgol Clywedog yn un o 20 ysgol yn y wlad i gymryd rhan yn Rhaglen Ysgolion ‘Be Football’ sydd yn cynnwys tua 150 o ferched o flynyddoedd 7 i 9.
Mae’r rhaglen yn cael ei redeg ar y cyd â dwy elusen: Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n gyfrifol am ddatblygu pêl-droed yng Nghymru, ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, elusen genedlaethol sydd yn angerddol o blaid pob plentyn yn profi’r manteision anhygoel a ddaw drwy chwarae a chwaraeon.
Bydd athrawon penodol yn yr ysgol yn cael hyfforddiant i’w helpu i annog merched yng nghwricwlwm addysg gorfforol trwy bêl-droed, i adnabod a datblygu sgiliau bywyd, a chefnogi merched i gael eu hawdurdodi i arwain gweithgareddau i eraill sy’n gysylltiedig â phêl-droed.
Dewiswyd chwe merch fel ysgogwyr pêl-droed a byddant yn derbyn hyfforddiant arwain cyfoedion, gan ddilyn naill ai llwybr marchnata neu gyflwyno. Y merched sydd yn ymgymryd â’r llwybr cyflwyno ydi Ellie Thomas, Alys Griffiths a Ruby Whitfield. Mae Faith Jarvis, Abbie Houghton a Meghan Rogers wedi dewis y rolau arwain marchnata.
Dywedodd Alys: “Mae merched angen bod yn fwy hyderus, a gobeithio y bydd cymryd rhan yn y prosiect hwn yn helpu llawer o ferched.
Mae Meghan yn edrych ymlaen at ddechrau ei rôl newydd. Dywedodd: “Dwi’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n gwneud i mi fod yn fwy hyderus ac yn dysgu sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio yn y dyfodol.”
Yn rhan o’r rhaglen, bydd yr ysgol yn cael cefnogaeth i sefydlu a chyflwyno clybiau pêl-droed allgyrsiol i ferched neu weithgareddau cysylltiedig eraill dan arweiniad yr ysgogwyr pêl-droed merched.
Yn sgil y pandemig, fe fydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal dros y we gan ddechrau yn nes ymlaen yn y mis. Fe gynhelir y rhaglen tan fis Gorffennaf flwyddyn nesaf.
Mae Joanne Attwood, pennaeth Addysg Gorfforol wrth ei bodd bod yr ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen. Dywedodd: “Mae’r adran Addysg Gorfforol wedi cyffroi ein bod wedi cael ein dewis i gymryd rhan yn y rhaglen. Mae’r merched wedi bod yn gofyn am fwy gyfleoedd i chwarae pêl-droed. Fe fydd y rhaglen yma’n galluogi iddynt adeiladu eu hyder a sgiliau arwain, ond yn fwy pwysig, bydd yn ysgogi iddynt fod yn heini drwy chwarae pêl-droed.”
Yn ogystal â chael cyswllt cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cysylltiad hir dymor, bydd yr ysgol yn derbyn offer i gyflwyno’r rhaglen a dillad ‘Be Football’ i’r merched yn y tîm arwain, a photeli dŵr a chardiau adnoddau.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer Gwobr Chwaraeon Ieuenctid Pêl-droed Merched, y cynllun cydnabod a gwobrwyo sydd yn arddangos dysgu a chyflawniad sgiliau bywyd ysgogwyr trwy bêl-droed.
???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????
CANFOD Y FFEITHIAU