Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhowch gynnig ar y gystadleuaeth hon i gynllunio cinio ysgol sy’n iach ac yn ddi-blastig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rhowch gynnig ar y gystadleuaeth hon i gynllunio cinio ysgol sy’n iach ac yn ddi-blastig
Busnes ac addysgPobl a lle

Rhowch gynnig ar y gystadleuaeth hon i gynllunio cinio ysgol sy’n iach ac yn ddi-blastig

Diweddarwyd diwethaf: Mai 16, 2019 11:12 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Design School Lunch Healthy Plastic Free
RHANNU

Blant ac ysgolion Wrecsam – daliwch sylw! Allwch chi gynllunio bocs bwyd ysgol sy’n iach ac heb unrhyw blastig untro?

Cynnwys
  • “Rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld rhai o’r cynlluniau”
  • Beth yw plastigau untro?

Mae gan ein Tîm Ysgolion Iach a’n Tîm Ailgylchu, mewn partneriaeth â Thîm Iechyd Parc Caia ac Adran Deietig Wrecsam, gystadleuaeth wych i chi gymryd rhan ynddi…

Thema’r gystadleuaeth yw ‘bwyta enfys’, felly rydyn ni am i chi fod yn greadigol ac yn lliwgar wrth gynllunio’r cinio, ond mae’n bwysig iawn ei fod yn iach ac nad oes unrhyw blastig ynddo fo.

Chaiff y cynigion ddim bod yn fwy na maint A4 ac fe allwch chi gynnwys lluniau, ffotograffau a disgrifiadau. Cofiwch ddweud beth fyddech chi’n ei ddefnyddio i gadw, lapio a chludo eich cinio hefyd!

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Defnyddiwch bob grŵp bwyd o’r canllawiau bwyta’n dda, ceisiwch ganolbwyntio ar fwydydd heb lawer o siwgr a halen, gydag o leiaf un darn o ffrwyth a llysiau a chofiwch hefyd gynnwys diod o lefrith neu ddŵr.

Mae yna ddau gategori: Derbyn-Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3-Blwyddyn 6. Cofiwch ei wneud yn ddifyr, yn greadigol, yn flasus ac yn iach 🙂

Mae’r manylion cystadlu i’w gweld ymhellach i lawr.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld rhai o’r cynlluniau”

Mae amser cinio’n rhan bwysig iawn o’r diwrnod, ac yn awr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’n ymwybodol o’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a’r pecynnau rydyn ni’n eu taflu.

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i wedi pwysleisio dro ar ôl tro pa mor bwysig yw pobl ifanc a’u hysgolion i’n helpu ni i gyrraedd ein targedau ailgylchu, felly mae’n hyfryd clywed am y gystadleuaeth hon sy’n annog plant i gynllunio bocs bwyd iach heb blastig.

“Mae ein gwasanaeth arlwyo ysgolion wedi gwneud nifer o newidiadau cadarnhaol, megis cynnig ffyrc pren y gellir eu hailgylchu fel gwastraff bwyd yn lle rhai plastig, ac mae’r plant wedi bod wrthi’n ailgylchu hefyd.

“Yn aml iawn, y plant sy’n addysgu eu rhieni am y pethau hyn, sy’n wych… rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld rhai o’r cynlluniau.”

Anfonwch eich cynigion i:

Cystadleuaeth Bocs Bwyd
Ysgolion Iach, Uned 21,
Ystâd Ddiwydiannol Whitegate
Wrecsam
LL13 8UG

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Gwener 14 Mehefin.

Rhowch eich enw, eich blwyddyn ysgol ac enw eich ysgol ar bob cynnig 🙂

A chofiwch, y categorïau yw Derbyn-Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3-Blwyddyn 6.

Bydd un enillydd o bob categori, a bydd yr enillwyr hynny’n derbyn gwobrau a anfonir i’w hysgolion. Bydd pob enillydd, a’r rhai sy’n dod yn ail a thrydydd, hefyd yn cael tystysgrif a bydd eu posteri’n cael eu harddangos yn ysgolion Wrecsam ac yn cael eu cynnwys mewn taflenni.

Beth yw plastigau untro?

Plastigau untro yw’r pethau hynny sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n tueddu i gael eu defnyddio unwaith cyn cael eu taflu.

Mae enghraifft dda o beth allai ddigwydd i blastig na chaiff ei ailgylchu i’w weld yn y fideo hwn gan Keep Britain Tidy o gerdd gan Steve Backshall o’r enw Jemima Glitter and the voyage of Bob the Bottle.

Hoffech chi ddysgu mwy am blastig untro? Atebwch gwestiynau ein cwis i weld sut wnewch chi.

[interact id=”5c5063a975b7dc00142e6072″ type=”quiz”]

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cloc y Stiwt yn Seinio Cloc y Stiwt yn Seinio
Erthygl nesaf Clothes Clothing Recycling Textiles Ai dyma’r ffordd hawsaf i ailgylchu eich dillad?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English