Mae Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch wedi ein rhybuddio o’r risg posibl sydd ynghlwm â gwerthiant o ffyn diheintio UV llaw sy’n cael eu gwerthu ar-lein a chan werthwyr annibynnol.
Honnir bod y ffyn hyn a werthir boddefnyddio golau UV yn diheintio a lladd germau, firysau a bacteria.
Byddwch yn ymwybodol bod yr honiadau hyn gan werthwyr y ffyn hyn heb eu profi’n wyddonol a dim ond ymchwil cyfyngedig sydd yn y DU yn eu cylch.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ni ddylent gael eu defnyddio yn ystod y cyfnod cyfredol o COVID-19 fel diheintydd, fel y mae rhai gwerthwyr yn awgrymu wrth eu hysbysebu, a gall dibynnu arnynt i ladd y firws ar arwynebeddau yn y cartref ayyb, fod yn beryglus.
Mae gwaith yn cael ei gyflawni i asesu’r risg y mae’r dyfeisiau hyn yn ei roi, ond peidiwch â chael eich denu i’w prynu.
Meddai Lawrence Isted, Prif Swyddog Cynllunio a Rheoleiddio: “Peidiwch â chael eich camarwain gan hysbysebu ffug posibl. Mae’r dyfeisiau hyn yn ddrud a ni wyddys os ydynt yn effeithiol. Dylid defnyddio diheintydd cartref arferol yn eich cartref a’r cyngor gorau dal i fod yw golchi dwylo am 20 eiliad gyda sebon ar gyfer pwrpas hylendid.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r ffyn hyn, rhowch wybod i’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch drwy anfon e-bost at OPPS.enquiries@beis.gov.uk gan ddyfynnu IU0098.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19