Tanciau nwy gwag?
Mae’n bwysig eich bod yn eu dychwelyd i’ch cyflenwr.
Mae tanciau nwy o bosibl yn beryglus a ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Mae’n well i chi wirio gyda’r cwmni y gwnaethoch brynu ganddynt oherwydd dylent allu eu hail-lenwi neu chael gwared ohonynt i chi.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Gall tanciau nwy gwag fod yn beryglus iawn os ydych yn cael gwared ohonynt yn eich biniau ailgylchu neu wastraff cyffredinol, a gall ffrwydro neu roi niwed i rywun.
Peidiwch byth â’u rhoi mewn bin gwastraff du/ gweddilliol
- Batris cludadwy (sydd mewn gliniaduron/ ffonau symudol/ cymhorthion clyw/ oriawr/ camerâu cludadwy/ torsh/ brwsh dannedd trydanol/ rasel/ sugnwyr llwch llaw), batris ailwefradwy a batris domestig (AA/AAA/9 folt) – Gallwch ailgylchu’r rhain me
- wn mwyafrif o siopau ac archfarchnadoedd sydd yn gwerthu batris neu fynd â hwy i’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
- Diffoddyddion tân bach i’r cartref – ewch â hwy i’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
- Tanciau boteli nwy na ellir eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd bach coginio BBQ ) – OS nad oes hylif na nwy tu mewn, gallwch eu hailgylchu gyda phlastig a chaniau ar ymyl palmant, OND os oes unrhyw beth ar ôl ynddynt, ewch â hwy i’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
I weld rhestr lawn o’r hyn y gellir ei ailgylchu yn Wrecsam, edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn.
YMGEISIWCH RŴAN