Mae Safonau Masnach Wrecsam yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o dwyll Amazon Prime ar ôl cael adroddiadau ar ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Mae’r adroddiadau yn dangos bod rhai o berchnogion tai yn Wrecsam wedi cael galwadau ffôn gan rywun sy’n honni i fod o Amazon Prime ac eisiau trafod eu cyfrif – twyll yw hwn.
Yna roedd y galwr yn gofyn iddynt bwyso 1 ar eu bysellbad i gysylltu i’w cyfrif. Yn ffodus iawn, nid oedd gan unrhyw un o’r perchnogion tai gyfrif Amazon Prime ac wedi adnabod mai twyll oedd hyn.
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn cynghori preswylwyr i fod yn wyliadwrus iawn pan fyddwch yn cael galwad ffôn fel hyn.
PEIDIWCH â sgwrsio ag unrhyw alwyr diwahoddiad sy’n gofyn am wybodaeth bersonol. Rhowch wybod am unrhyw alwadau amheus i Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu i Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i beidio â chael eich twyllo…
- Peidiwch BYTH â rhannu manylion personol gyda galwyr diwahoddiad
- Ceisiwch gyngor annibynnol gan rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo os oes gennych chi amheuaeth
- Os bydd rhywun yn dweud ei fod o sefydliad penodol, sicrhewch eich bod yn gwirio eu hunaniaeth drwy ffonio’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol
Nid dim ond dros y ffôn y mae’r sgamiau hyn yn digwydd chwaith…os cewch lythyr, neges e-bost, neges destun, neu hyd yn oed neges ar gyfryngau cymdeithasol, dilynwch y camau cywir i aros yn ddiogel.
Cofiwch, os ydych chi eisiau adrodd am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!