Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym yn teimlo’r wefr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rydym yn teimlo’r wefr
Pobl a lleY cyngor

Rydym yn teimlo’r wefr

Diweddarwyd diwethaf: 2018/08/31 at 12:24 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Rydym yn teimlo’r wefr
RHANNU

Mae gennym gynlluniau trydanol ar droed ar gyfer rhai o’n meysydd parcio.

Cynnwys
A fydd rhaid i chi dalu am wefru?“Dewis arall mwyfwy hyfyw”

Mae nifer y bobl sy’n symud o danwyddau ffosil i geir trydanol yn tyfu – ond mae cryn ffordd i fynd cyn y gellir gwireddu’r cynlluniau i gael gwared ar geir tanwydd ffosil oddi ar ffyrdd Prydain erbyn 2050.

Rhan o hyn yw gwneud teithiau yn fwy cyfleus i berchnogion ceir trydan drwy gynnig rhagor o bwyntiau gwefru – ac mae rhan gennym ni yn hynny.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Yn ôl ym mis Mawrth, cymeradwyodd ein Bwrdd Gweithredol gynlluniau am gyfres o bwyntiau gwefru ceir ar draws rhai o’n meysydd parcio yng nghanol y dref.

Ers hynny, mae cynlluniau wedi symud yn eu blaen – a dylai’r mannau gwefru newydd fod yn eu lle cyn diwedd mis Medi.

Byddwn yn gosod mannau gwefru mewn meysydd parcio yn y Byd Dŵr, Tŷ Pawb, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Basn Trefor.

Bydd dau fan gwefru’r un ym mhob un o’r meysydd parcio, felly bydd deg i gyd.

A fydd rhaid i chi dalu am wefru?

Bydd ffioedd gwefru ym mhob un o’r gorsafoedd hyn.

Yn ogystal â thalu’r ffi barcio safonol ar gyfer y maes parcio y byddwch yn gwefru ynddo, codir ffi fechan hefyd ar y defnyddwyr am yr ynni a ddefnyddir.

“Dewis arall mwyfwy hyfyw”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gwybod fod ceir trydanol wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae hyd yn oed gennym rai ymhlith ein fflyd o gerbydau staff ein hunain – ac rydym yn awyddus i gynyddu nifer y ceir trydan sydd gennym yn y dyfodol.

“Hyd yma, oherwydd yr ynni y gallant ei storio, mae ceir trydanol ond wedi bod yn ymarferol ar gyfer teithiau byrrach mewn gwirionedd – ond wrth i dechnoleg storio ynni wella ac i nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael gynyddu, byddant yn dod yn ddewis arall mwyfwy hyfyw yn hytrach na cherbydau tanwydd petrol neu ddisel.

“Fel awdurdod lleol, mae gennym ein rhan i’w chwarae i gynyddu’r ddarpariaeth honno.

“Bydd cyllid ar gyfer gosod ein deg pwynt newydd yn dod o’r gyllideb garbon, a gaiff ei neilltuo i’n helpu i leihau ein hôl troed carbon, a bydd cyfran o elw’r pwyntiau gwefru yn mynd yn ôl i’r gyllideb garbon ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.”

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Rhannu
Erthygl flaenorol Dychwelyd i’r ysgol – ydych chi’n adnabod pennaeth sy’n chwilio am her newydd? Dychwelyd i’r ysgol – ydych chi’n adnabod pennaeth sy’n chwilio am her newydd?
Erthygl nesaf Cyn-filwr yn trawsnewid eiddo “hyll” Cyn-filwr yn trawsnewid eiddo “hyll”

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English