Yr wythnos ddiwethaf atafaelodd swyddogion Safonau Masnach gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru swm sylweddol o faco anghyfreithlon o wahanol ardaloedd yn Wrecsam.
Atafaelwyd dros 30,000 o sigaréts, swm o faco a £10,000 mewn arian parod fel rhan o Ymgyrch Cece a oedd yn anelu at darfu hyd yr eithaf ar y fasnach faco anghyfreithlon.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Roedd yr ymgyrch ddiweddaraf hon yn dilyn ymgyrchoedd eraill a gynhaliwyd dros y 18 mis diwethaf i dargedu cyflenwadau o faco anghyfreithlon yn ein cymunedau gyda’r nod o atafaelu’r cynnyrch, tarfu ar y farchnad a lle bo hynny’n briodol cymryd camau cyfreithiol, yn cynnwys erlyn y delwyr.
Mae ysmygu’n achosi mwy o farwolaethau cynamserol yn y DU nag unrhyw beth arall ac yn lladd tua 5,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn. Mae llawer o bobl yn dioddef salwch ac anableddau hirdymor o ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith eu bod yn ysmygu. Er bod cyfraddau ysmygu yng Nghymru a gweddill y DU wedi bod yn gostwng yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ysmygu wedi aros yr un fath. Bob dydd mae tua 30 o blant yn yng Nghymru yn dechrau ysmygu.
Dywedodd Swyddog Arweiniol Safonau Masnach a Thrwyddedu Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Wrecsam, Roger Mapleson: “Mae baco anghyfreithlon yn fygythiad oherwydd bod ei bris isel a’i argaeledd yn golygu bod modd i blant gael gafael ar sigaréts yn rhwydd a bod mewn perygl wedyn o fod yn gaeth iddynt am oes; mae hefyd yn ei gwneud yn anoddach i bobl sydd eisoes yn ysmygwyr roi’r gorau i’r arfer. Does dim ots gan werthwyr baco anghyfreithlon i bwy maen nhw’n ei werthu ac mae plant yn darged proffidiol.
“Mae o leiaf 1 plentyn o bob 3 sy’n arbrofi gydag ysmygu’n mynd ymlaen i fod yn gaeth i sigaréts. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n ysmygu eisiau rhoi’r gorau iddi ond mae sigaréts rhad, hawdd eu prynu yn ormod o demtasiwn ac yn gallu ei gwneud yn llawer anoddach iddyn nhw wneud hynny. Mae’n rhaid i ni helpu ein cymunedau lleol i gael gwared ar faco anghyfreithlon. Mae’n cael ei gyflenwi fel rhan o weithgaredd troseddol trefnedig sy’n gysylltiedig â gweithgareddau troseddol eraill yn cynnwys cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, smyglo a chaethwasiaeth fodern.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Os ydych yn gweld, neu’n gwybod bod baco rhad yn cael ei werthu mewn siopau, o dai preifat neu dafarndai, yn y gweithle neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, helpwch i ddiogelu ein cymunedau a rhowch wybod i ni. Gallwch wneud hyn yn gyfrinachol ar lein neu gallwch ffonio 029 2049 0621.”
ragor o wybodaeth am faco anghyfreithlon ewch i yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH