Mae Safonau Masnach am rybuddio busnesau am sgâm minio offer sy’n digwydd yng Ngogledd Cymru, yn agos at Wrecsam.
Mae hwn yn sgâm eithaf adnabyddus lle mae galwyr ffug yn ymweld â busnesau i gynnig minio offer am £3 neu £4 yr un.
Bydd y dynion yn mynd â’r offer i gael eu minio, a pan fyddan nhw’n dychwelyd, bydd y pris wedi newid i £3 neu £4 am bob milimetr yn lle. Cafodd perchennog gweithdy fil am dros £2,500 yn ddiweddar.
Pan mae busnesau wedi gwrthod talu’r costau cynyddol, mae’r dynion wedi bod yn fygythiol, ymosodol a hyd yn oed treisgar mewn un achos, meddai Safonau Masnach.
Os byddwch chi’n cael ymweliad gan bobl anhysbys yn cynnig gwasanaethau o’r fath, mae Safonau Masnach yn cynghori i chi beidio ag arwyddo unrhyw waith papur, ac yn bendant peidiwch â rhoi unrhyw offer iddyn nhw. Os byddwch chi dan fygythiad, ffoniwch yr Heddlu ar 999.
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505
Neu, os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!