Gall pum mlynedd gyntaf unrhyw blentyn siapio eu dyfodol. Gall cael y dechrau cywir atal problemau presenoldeb ysgol, cam-drin sylweddau, diweithdra, salwch, a marwolaeth cynnar hyd yn oed.
Home-Start
Mae Home-Start yn recriwtio ac yn darparu hyfforddiant achrededig i wirfoddolwyr lleol i helpu teuluoedd â phlant ifanc sy’n profi anawsterau. Mae gwirfoddolwyr a staff yn cefnogi teuluoedd yn wythnosol wrth iddynt ddysgu sut i ymdopi, gwella ar eu hyder a rhoi bywyd gwell i’w plant.
Mae gwirfoddolwyr yn aml yn rhieni eu hunain, ac yn cael eu cefnogi gan y tîm staff i gynyddu eu cyflogadwyedd, sgiliau a hyder. Mae Home-Start yn darparu cam ymlaen i addysg bellach/hyfforddiant a chyflogaeth i’r gwirfoddolwyr a’r teuluoedd.
Mae Home-Start hefyd yn cynnal grwpiau teulu adeiledig a gweithgareddau i hyrwyddo chwarae a rhianta cadarnhaol. Maent yn cynnig gweithgareddau i rieni a phlant i ddatblygu sgiliau a darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned ehangach.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae gan bob teulu asesiad holistaidd i nodi anghenion a chryfderau a gwneir cynllun cefnogi teuluoedd unigol.
Mae Cyngor Wrecsam yn darparu nawdd i helpu i gefnogi rhai o’r gwasanaethau a gynhelir gan Home-Start. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau cefnogi rhieni anffurfiol, cefnogaeth rhianta dwys 1:1 a rhaglenni rhianta yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r gwasanaethau yn helpu i leihau nifer y plant sy’n cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn ystod eu plentyndod.
Beth ydi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)?
Mae Profiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau llawn straen sy’n digwydd yn ystod plentyndod, a gallan gynnwys:
- trais domestig
- rhieni’n gadael oherwydd gwahanu neu ysgariad
- rhiant gyda chyflwr iechyd meddwl
- bod yn ddioddefwr camdriniaeth (rhywiol, corfforol, ac/neu emosiynol)
- bod yn ddioddefwr esgeulustod (corfforol ac emosiynol)
- aelod o’r teulu yn y carchar
- cael eu magu mewn aelwyd lle mae oedolion yn profi problemau ag alcohol neu gyffuriau
Mae tystiolaeth yn dangos bod plant sy’n profi gofid a phlentyndod o ansawdd isel yn fwy tebygol o ddatblygu ymddygiad sy’n niweidiol i’w iechyd a gwrthgymdeithasol, yn fwy tebygol o berfformio’n wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol i fod yn rhan o drosedd, ac yn y pendraw, yn llai tebygol o fod yn aelod cynhyrchiol o’r gymdeithas.
Gellir canfod mwy o wybodaeth am Home-Start yma.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am ACE a’u heffaith ar blant, yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN