Mae pobl yn cael eu twyllo gan unigolion diegwyddor i gredu bod gwastraff o’u cartref yn cael ei waredu’n gywir mewn safle wedi ei gofrestru. Maent yn cymryd arian pobl drwy addo cael gwared â’u gwastraff mewn ffordd gyfrifol, yna’n tipio sbwriel yn anghyfreithlon ledled y fwrdeistref sirol.
Mae gennym “ddyletswydd gofal” fel deiliaid tai i sicrhau bod gan unrhyw un yr ydym yn ei ddefnyddio i fynd â’n sbwriel Drwydded Cludydd Gwastraff swyddogol, a gellwch wirio unrhyw un ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau dilys yn fodlon dangos eu Trwydded i chi a’ch sicrhau y byddent yn cael gwared â’ch sbwriel mewn ffordd gyfrifol mewn safle gwastraff dynodedig priodol.
Os nad oes ganddynt Drwydded mae’n debygol iawn y bydd eich sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, ac os gellir ei olrhain yn ôl i chi, mae perygl y byddwch yn derbyn dirwy o hyd at £5,000 a chael eich erlyn.
Gall ein swyddogion roi rhybudd cosb benodedig o £300 i ddeiliad tŷ fel dewis arall yn lle erlyniad.
Ewch i’r dudalen (dolen) ar ein gwefan i ganfod mwy ynglŷn â chael gwared â gwastraff yn gyfrifol.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH