Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siop Ailddefnyddio neu ogof Aladdin? Gwyliwch ein fideo i weld dros eich hun…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Siop Ailddefnyddio neu ogof Aladdin? Gwyliwch ein fideo i weld dros eich hun…
FideoY cyngor

Siop Ailddefnyddio neu ogof Aladdin? Gwyliwch ein fideo i weld dros eich hun…

Diweddarwyd diwethaf: Medi 27, 2019 9:53 am
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Mae ailgylchu yn rhywbeth gwych ac mae mwy ohonom yn Wrecsam yn dechrau gwneud hyn. Ond nid ydym yn siarad eich caniau, boteli a thuniau gwag; peidiwch â phoeni mae llawer o bethau eraill y gellir eu hailgylchu hefyd…

Sef offer chwaraeon, sugnwr llwch, pramiau, dodrefni, beiciau, dodrefni ardd, teledu, DVD, Blu-rays, CD ac eitemau trydanol eraill… maent i gyd yn cael eu hailgylchu yn y siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Caiff y siop ailddefnyddio ei redeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac ym mis Tachwedd, bydd yr ogof arbennig hon yn dathlu ei phen-blwydd yn dair oed.

Eglurodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, “Mae’r siop ailddefnyddio yn y ganolfan ailgylchu Bryn Lane ac mae’n fan lle’r ydych yn prynu eitemau o ansawdd dda sydd wedi cael eu hailgylchu. Mae ganddynt bob amser ystod eang o stoc sydd yn fargenion, a byddem yn awgrymu i bawb fynd yno i weld dros eu hunain.

“Gallwch gyfrannu eitemau gyda gwerth ailwerthu yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu, a chânt eu pasio i’r siop ailddefnyddio. Os mai prynu neu gyfrannu ydych chi, byddwch yn helpu achos lleol dda yn Hosbis Tŷ’r Eos sydd yn gwneud gwaith gwirioneddol dda yn eu hardal leol.”

I’r sawl sydd yn anghyfarwydd â gwaith anhygoel Tŷ’r Eos, maent yn darparu gofal ar gyfer pobl sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermo a threfi’r gororau, yn cynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.

Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu glanhau a’u profi o ran diogelwch cyn cael ei hail-werthu yn y siop ailddefnyddio. Fel y gallwch weld o’n fideo, mae digonedd o ddewis.

Felly cofiwch, os ydych yn edrych am ychydig o bethau i’r tŷ, anrhegion i eraill, neu – a ddylem ni ddweud hyn – pethau ychwanegol at y Nadolig, ewch i weld beth yw’r bargeinion… oherwydd mae digon ohonynt 🙂

Neu os ydych eisiau clirio, cofiwch gyfrannu eich eitemau diangen.

Cofiwch y naill ffordd neu’r llall, byddwch yn helpu achos teilwng iawn trwy gyfrannu ac hefyd yn rhoi bywyd newydd i eitemau da – gwych!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Leisure Centres Mae Freedom Leisure yn codi hwyl wrth godi arian ar Ddiwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon
Erthygl nesaf Gwaith ar yr A483 Gwaith ar yr A483

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English