Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siopa, rhoddi ac ail-anrhegu… sut allwch chi helpu’r siop ailddefnyddio (a sut all y siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Siopa, rhoddi ac ail-anrhegu… sut allwch chi helpu’r siop ailddefnyddio (a sut all y siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn
Y cyngor

Siopa, rhoddi ac ail-anrhegu… sut allwch chi helpu’r siop ailddefnyddio (a sut all y siop eich helpu chi) yn Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 22, 2019 10:26 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Reuse shop Christmas Recycling
RHANNU

Ar 16 Tachwedd, roedd y siop ailddefnyddio yn dathlu tair blynedd ers iddi agor – pen-blwydd hapus! 🙂

Cynnwys
  • “Mae cymaint o bethau y gellir eu hailgylchu…”
  • Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…
  • Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2020?
  • Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau

Ond rywsut mae rhai pobl yn Wrecsam heb glywed am y siop na ble mae hi I’ch atgoffa, gallwch ddod o hyd i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane 😉

Mae llawer o bobl yn ei hadnabod fel ogof Aladdin ond mae hi’n fwy fel ogof Sion Corn ar hyn o bryd.

Wrth i’r Nadolig nesáu mae llawer o bethau yn y siop ailddefnyddio y gallech eu prynu i ledaenu hwyl yr ŵyl.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

“Mae cymaint o bethau y gellir eu hailgylchu…”

Dywed Dave Jones, Rheolwr y siop ailddefnyddio: “Dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli y gallant brynu llawer o stwff sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer y Nadolig o’r siop ailddefnyddio. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn prynu eu haddurniadau Nadolig o siopau mawr am y gost lawn, ond mae gennym ddigonedd o stoc mewn cyflwr ardderchog.

“Mae cymaint o bethau gallwch eu hailgylchu ac rydym yn ceisio cylchdroi ein stoc i adlewyrchu’r pethau y mae pobl yn debygol o fod eu hangen ar adegau penodol o’r flwyddyn. Felly os nad ydych wedi dechrau siopa Nadolig eto, dewch draw i’n gweld… rydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sydd ei angen arnoch yn y siop.”

Os oes angen addurniadau, goleuadau a thinsel ar gyfer y goeden arnoch neu hyd yn oed y goeden Nadolig ei hun, mae’n werth ystyried y siop ailddefnyddio gan y byddwch yn chwarae’ch rhan i ailgylchu, hefyd gallwch arbed arian ar yr un pryd!

Bydd yr arian a wariwch yn y siop ailddefnyddio yn mynd tuag at helpu Hosbis Tŷ’r Eos; elusen leol wych, sy’n gwneud gwaith ardderchog yn Wrecsam ac ardaloedd cyfagos.

Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…

Bydd y siop ailddefnyddio yn siŵr o fedru’ch helpu. Os ydych yn ystyried prynu teledu, ewch draw i gael cipolwg… fel arfer mae llwyth o rai o feintiau amrywiol ar gael.

Ac os ydych yn ansicr ynglŷn â phrynu teledu wedi’i ddefnyddio, cofiwch bod pob eitem yn cael eu glanhau a’u bod yn cael profion diogelwch cyn iddyn nhw gael eu gwerthu 🙂

Ond os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig yn llai, fel arfer mae detholiad o eitemau fel setiau rhodd, teganau, DVDau, gemau cyfrifiadurol, gemau bwrdd ac addurniadau hyfryd ar gael i lenwi’ch hosanau Nadolig.

Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2020?

Adduned Blwyddyn Newydd poblogaidd yw cadw’n heini a lle da i ddechrau gwneud hyn bob amser yw beicio.

Oes angen beic arnoch chi? Dyma’r lle i chi!

Reuse shop bikes cycling

Mae dewis helaeth iawn o feiciau ar gael yn y siop ailddefnyddio. O feiciau plant i feiciau oedolion, beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano rydych yn siŵr o ddod o hyd iddo yn y siop ailddefnyddio 🙂

Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael beic yn anrheg Nadolig mewn gwirionedd. Mae pob beic yn cael eu storio y tu allan i’r siop felly gallwch gael cipolwg arnynt a’u gwirio cyn prynu felly dewch draw i weld.

Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau

Mae pawb wedi derbyn anrheg Nadolig di-eisiau rywbryd yn eu bywydau 🙁

Ond nid yw’r ffaith nad yw’r anrheg at eich dant chi yn golygu nad yw’n berffaith i rywun arall. Mae ail-anrhegu yn golygu rhoi’ch anrhegion di-eisiau i bobl eraill a byddai’r siop ailddefnyddio yn ddiolchgar iawn pe baech yn ystyried rhoi’r eitemau hyn iddyn nhw.

Ychwanega Dave: “Os ydych yn cael unrhyw anrhegion nad ydych yn meddwl y byddwch yn eu defnyddio, byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn ystyried dod â nhw i’r siop. Heb roddion ni fyddem yn gallu gweithredu, felly rydym yn gwerthfawrogi popeth a dderbyniwn. Rydym yn dibynnu ar roddion drwy gydol y flwyddyn, felly cofiwch amdanom y tro nesaf y byddwch yn clirio’r tŷ hefyd.”

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Diolch am feddwl am ailgylchu a Nadolig Llawen cynnar.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymdrech ysgubol gan Ddisgyblion, Staff a Rhieni Ysgol Clywedog Ymdrech ysgubol gan Ddisgyblion, Staff a Rhieni Ysgol Clywedog
Erthygl nesaf Pobl ifanc yn paratoi ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol Pobl ifanc yn paratoi ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English