Erthygl wadd gan Lywodraeth Cymru
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cronfa newydd i gymunedau ledled Cymru i’w helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer gweithgareddau sydd â’r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd o amgylch diwrnod nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar 1 Mawrth, 2026. Gallai gweithgareddau gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, dawnsio gwerin Cymreig traddodiadol neu ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar fwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2026.
Bydd sefydliadau yn gallu gwneud cais am dair lefel o gyllid, o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr.
Gall grwpiau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000 i gyflwyno digwyddiadau lleol neu gymunedol. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau rhanbarthol, fel awdurdodau lleol, a hyd at £40,000 i sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno gweithgareddau ledled y wlad.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu tapestri traddodiadau unigryw a chyfoethog Cymru. O eisteddfodau ysgol i orymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi, mae pobl ledled Cymru a ledled y byd yn dod at ei gilydd i ddangos y gorau o’n diwylliant a chymaint mwy sydd gan Gymru i’w gynnig.
“Rydym yn genedl hynod falch – rydym yn cefnogi’r Cymry mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, rydym yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith ac rydym yn byw ein bywydau bob dydd mewn ffordd unigryw Gymreig.
“Bydd gweithgareddau ychwanegol y flwyddyn nesaf yn dathlu ein hysbryd, ein balchder a’r undod sy’n ein diffinio. Rydym am i bawb deimlo’n rhan o’r digwyddiad hwn – gan rannu straeon, cymryd rhan yn ein traddodiadau a dathlu’r Gymru fodern rydym yn falch o’i galw’n gartref.
“Gadewch i ni wneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 y mwyaf cofiadwy eto – yn adlewyrchiad gwirioneddol o bwy ydym, o ble rydym yn dod, a beth sy’n gwneud Cymru yn genedl mor wych.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am y Gymraeg: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yng nghanol dinas Wrecsam bob amser yn ddathliad mawr, a bydd y grantiau hyn yn golygu y bydd grwpiau a chymunedau unigol yn gallu cymryd rhan yn y dathliad ar garreg eu drws. Edrychaf ymlaen at glywed am y digwyddiadau a fydd yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol ac, yn arbennig, yr holl wahanol ffyrdd y mae diwrnod ein nawddsant yn cael ei ddathlu ac yn dod â chymunedau Wrecsam at ei gilydd.”