Yn ystod y cyfnod anodd hwn, nid oes gennym ni unrhyw ddewis ond cau rhai o’n gwasanaethau cyhoeddus a chanslo digwyddiadau a gweithgareddau yn ein cyfleusterau, megis digwyddiadau a oedd i’w cynnal yn y dyfodol agos yn Tŷ Pawb, yr amgueddfa a’r llyfrgell.
Daw hyn yn dilyn gostyngiad sylweddol mewn archebion a galw gan y cyhoedd, a fydd, yn ei dro, yn cael effaith ar nifer yr ymwelwyr ar draws canol y dref.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Rydym wedi gwneud y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar gyngor gan y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhaid i ni hefyd fod yn ystyriol o’n dyletswydd gofal i’n gweithwyr a’r gymuned ehangach yn Wrecsam.
Bydd nifer o fân-werthwyr yn poeni am y dyfodol a hoffem sicrhau ein masnachwyr tenantiaid, a’r cyhoedd, y byddwn yn cadw ein marchnadoedd ar agor am gyhyd â phosibl er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw, a busnesau bach eraill, i barhau i fasnachu. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gallu parhau i fasnachu am gyn hired â phosibl.
Rydym yn cynnig ein cymorth a’n cyngor yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn ac mae cyngor defnyddiol iawn ar gael i fasnachwyr gan ein tîm Busnes a Buddsoddi yn ogystal. Gellir dod o hyd iddo yma.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19