I fynd i glwb nos neu ddigwyddiad mawr yn Wrecsam a phob cwr o Gymru mae’n rhaid ichi bellach fedru dangos eich statws brechu neu ganlyniad negyddol diweddar wedi prawf llif unffordd.
Gallwch brofi hynny ar unwaith os oes gennych Bas Covid y GIG a gallwch lawrlwytho un yma: https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk.
Cofiwch drefnu eich Pàs Covid cyn i chi fynd allan i dre’.
Fe allwch chi wneud hyn yn hawdd iawn gartref, felly peidiwch â’i adael tan eich bod chi tu allan i’r lleoliad – a hithau’n dywyll a chithau heb fynediad at ddarn pwysig o wybodaeth!
Mae’n debygol iawn y cewch chi’ch gwrthod os na wnewch chi ddangos Pàs Covid. Mae’n gwneud synnwyr, peidiwch â difetha noson allan oherwydd nad oes gennych chi Bàs Covid.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r pàs ar gael i bawb dros 16 yng Nghymru ac mae’n ddiogel ei ddefnyddio.
Mae’n ddefnyddiol hefyd os ydych chi’n bwriadu teithio dramor neu angen dangos i’ch cyflogwr eich bod wedi cael y ddau frechiad a bod dim angen ichi hunan-ynysu os cewch eich adnabod yn gysylltiad i rywun gan y tîm Profi, Olrhain a Diogelu.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Pàs Covid drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL