Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol
Y cyngor

Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 8, 2019 11:56 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Sut mae’r cyngor yn gweithio: grwpiau gwleidyddol
RHANNU

Faint ydych chi’n ei wybod am gyfansoddiad gwleidyddol Cyngor Wrecsam?

Cynnwys
  • Pa grwpiau gwleidyddol sydd yna?
  • Faint o aelodau sydd yn perthyn i bob grŵp gwleidyddol?
  • Sut ydw i’n darganfod pa grŵp y mae cynghorwyr yn perthyn iddyn nhw?
  • Pa grŵp sydd ‘mewn pŵer’?
  • Beth mae’r grŵp mwyafrifol yn ei wneud?

Os mai ‘dim llawer’ yw eich ateb yna mae’n debyg eich bod o fewn y mwyafrif.

Ac efallai nad ydych yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o’ch cynghorwyr lleol yn perthyn i grŵp gwleidyddol.

Pa grwpiau gwleidyddol sydd yna?

Ar hyn o bryd mae chwe grŵp gwleidyddol gwahanol.

Mae rhai enwau y byddwch yn gyfarwydd â nhw – Llafur, Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Er hynny mae aelodau Annibynnol, Aelodau Annibynnol Wrecsam a chynghorwyr amhleidiol sydd ddim yn perthyn i unrhyw grŵp.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Faint o aelodau sydd yn perthyn i bob grŵp gwleidyddol?

Annibynnol – 16

Llafur – 12

Ceidwadol – 8

Aelodau Annibynnol Wrecsam – 8

Plaid Cymru – 3

Democratiaid Rhyddfrydol – 2

Mae hefyd tri o Aelodau Amhleidiol ar y Cyngor.

Sut ydw i’n darganfod pa grŵp y mae cynghorwyr yn perthyn iddyn nhw?

Gallwch weld yr holl gynghorwyr lleol yn ôl eu grwpiau gwleidyddol ar ein gwefan.

Tydi’r blaid y mae cynghorwyr yn sefyll drosti mewn etholiad ddim bob tro’n cyd-fynd â’r grŵp gwleidyddol y mae’n nhw’n aelod ohono – weithiau y byddant yn sefyll dros un blaid, ond yn ymuno â grŵp arall ar ôl cael eu hethol.

Unwaith i bob cynghorydd gael eu hethol ar gyfer eu ward (ardal) o Wrecsam, mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno rhybudd ffurfiol os ydynt yn penderfynu sefydlu grŵp gwleidyddol gyda chynghorwyr eraill.

Os ydych eisiau gwybod mwy am gynghorwyr lleol a sut y maen nhw’n cael eu hethol, gallwch ddarllen ein erthygl flaenorol yma.

Pa grŵp sydd ‘mewn pŵer’?

Mae’r system yn gweithio mewn ffordd debyg i’r hyn sy’n digwydd ar lefel cenedlaethol – y grŵp gyda’r nifer fwyaf o aelodau a bleidleisiwyd i mewn yw’r grŵp mwyafrifol.

Er hynny, yn debyg rywsut i’r llywodraeth genedlaethol, mae clymblaid yng Nghyngor Wrecsam ar hyn o bryd. Mae’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr, aelodau Annibynnol ac aelodau Annibynnol Wrecsam.

Beth mae’r grŵp mwyafrifol yn ei wneud?

Mae’r grŵp mwyafrifol (neu grwpiau clymblaid) yn dewis 10 aelodau i fod ar y Bwrdd Gweithredol – yn y Cyfarfod Cyngor Blynyddol ym mis Mai ar ôl cynnal yr etholiad.

Mae sawl pwyllgor yn gwneud penderfyniadau yn y cyngor, ond y ‘Bwrdd Gweithredol’ yw’r un sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau allweddol ynghylch blaenoriaethau a gwasanaethau’r cyngor.

Rŵan eich bod yn gwybod ychydig mwy am sut y mae’r cyngor yn gweithio, gallwch hefyd ddarllen am wahanol bwyllgorau’r cyngor yn ein erthygl flaenorol yma, os oes gennych ddiddordeb.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol FOCUS Wales, SXSW ac Wythnos Lleoliad Annibynnol yn cydweithio ar gyfer sioe arbennig yn Wrecsam FOCUS Wales, SXSW ac Wythnos Lleoliad Annibynnol yn cydweithio ar gyfer sioe arbennig yn Wrecsam
Erthygl nesaf Ysgol Bro Alun Cymeradwyo Estyniad Bro Alun a Strategaeth Bêl-droed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English