Wrth i’r gaeaf drymhau mae’n dod yn fwy tebygol y cawn dywydd eithafol rywbryd neu’i gilydd – gan gynnwys stormydd.
Felly sut mae Cyngor Wrecsam yn paratoi ar gyfer tywydd eithafol ac argyfyngau eraill – ac ymateb iddynt?
Mae ein ‘protocol ymateb i argyfwng’ yn esbonio’r hyn a wnawn a ffyrdd y gallwch chi helpu drwy roi gwybod am broblemau gan ddefnyddio’r rhifau ffôn cywir a rhoi gwybodaeth glir.
Byddwn yn cyhoeddi’r rhifau ffôn perthnasol os cyfyd argyfwng, ond os hoffech chi wneud nodyn ohonynt o flaen llaw, weler isod…
Cyngor Wrecsam – protocol ymateb i argyfwng
Beth yw argyfwng?
Argyfwng yw unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth creu niwed difrifol i les pobl neu ddifrod difrifol i’r amgylchedd neu ddiogelwch y Deyrnas Gyfunol – rhywbeth fel rhyfel neu derfysgaeth (Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004).
Nid gwasanaeth brys mo’r Cyngor, ond fe’i diffinnir yn ‘ymatebwr categori un’ o dan y Ddeddf, ac mae’n gweithio gydag ymatebwyr eraill i reoli sefyllfaoedd.
Pwy sy’n medru cyhoeddi argyfwng?
Fel arfer, y gwasanaethau brys (hynny yw, yr heddlu) a fydd yn cyhoeddi argyfwng.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn medru gwneud hynny hefyd os oes angen, drwy’r Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng.
Sut ydym yn ymateb mewn argyfwng?
- Uwch-reolwyr yn meithrin cyswllt â phartneriaid.
- Timau rheng flaen ar waith ar lawr gwlad.
- Rhannu gwybodaeth â’r cyhoedd.
- Gweithredu’r trefniadau ar gyfer delio â galwadau ffôn mewn argyfwng.
Pa rif allwch chi ei ffonio?
I roi gwybod am broblem sy’n gysylltiedig â’r argyfwng a gyhoeddwyd, ffoniwch:
Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989
Y tu allan i oriau 01978 292055
Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993
Peidiwch â ffonio swyddogion unigol.
Os oes bygythiad enbyd i fywyd rhywun, ffoniwch 999 bob tro.
Pwy fydd yn ateb eich galwad?
Yn ystod oriau swyddfa bydd staff ein canolfan gyswllt yn ateb y ffôn.
Ar ôl 5pm ac ar y penwythnos, bydd galwadau’n mynd drwodd naill ai i Delta (ein darparwr y tu allan i oriau) neu ein canolfan gyswllt os penderfynwyd darparu staff ychwanegol.
Caiff yr wybodaeth a rowch chi ei rhannu â thimau yn y rheng flaen er mwyn eu helpu i ymateb.
Peidiwch â ffonio swyddogion unigol
Peidiwch â ffonio swyddogion unigol i roi gwybod am broblemau.
Os defnyddiwch chi’r rhifau iawn bydd goruchwylwyr yn fwy rhydd i ganolbwyntio ar gydlynu pethau ar lawr gwlad – rhoi ein gweithlu, ein peiriannau a’n contractwyr ar waith yn y mannau ble mae’r angen mwyaf.
Rhagolygon o dywydd garw
Er nad yw tywydd garw’n argyfwng o reidrwydd, bydd Cyngor Wrecsam yn ymateb serch hynny.
Sut fyddwn ni’n rheoli hyn?
- Derbyn y rhagolygon. Tîm rheoli argyfyngau mewnol yn cwrdd i sicrhau fod adnoddau ar gael ar gyfer ymateb ac adferiad.
- Rhoi’r tîm ymateb cychwynnol ‘ar waith’. Mae’r gweithwyr sy’n ateb y ffôn yn trosglwyddo gwybodaeth i oruchwylwyr a gwneud cofnod o broblemau. Mae’r goruchwylydd ar alwad yn rhydd i reoli’r gweithlu ac adnoddau.
- Rhannu gwybodaeth a chyfathrebu’n rheolaidd ynglŷn â meysydd gwaith o flaenoriaeth, yn ogystal â chyhoeddi rhybuddion am y tywydd ar y pryd.
Sut i roi gwybod am doriadau trydan
Dylid rhoi gwybod am unrhyw doriadau trydan drwy ffonio 105.
Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth.
Tri pheth sy’n helpu mewn argyfwng
- Ffonio’r rhif iawn.
- Rhoi gwybodaeth glir.
- Bod yn amyneddgar.
Diolch.