Yn ddiweddar cwblhaodd staff Tîm y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) a’u cleientiaid daith elusennol er budd Dementia UK.
Fe wnaethant gerdded o Fasn Trefor i Gamlas Llangollen ac yn ôl. Roedd gwahanol bellteroedd ar gael o 0.7km i 10km, a chafodd pob taith gerdded ei harwain gan staff Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Codwyd cyfanswm o £831.00 drwy nawdd a rhoddion.
Mwynhaodd bawb paned a theisen hyfryd ar ôl i bawb orffen yn y Chapel Tea Rooms.
Fe hoffai tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn Wrecsam ddiolch i bawb ymunodd â ni ar y daith ac i bawb a roddodd mor hael at elusen deilwng.
Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn gynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) a reolir yn ganolog gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) drwy weithio mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ers mis Gorffennaf 2007.
Nod y Cynllun yw lleihau anghydraddoldebau mewn afiechyd drwy ddarparu mynediad at weithgarwch corfforol wedi’i deilwra a’i oruchwylio. Mae’r boblogaeth darged dros 16 oed, nad ydynt wedi arfer bod yn gorfforol egnïol yn rheolaidd ac sydd mewn perygl o gael cyflwr iechyd hirdymor neu gronig. Bwriad y Cynllun yw rhoi cyfleoedd i wneud ymarfer corff sy’n hwyl, yn werth chweil ac y gellir eu cynnwys mewn bywyd bob dydd.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR