Yn ôl Cyllid a Thollau EF (CThEF), mae bron i 28,000 o gwsmeriaid wedi defnyddio ap CThEF i adnewyddu eu hawliad blynyddol am gredydau treth.
Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol sydd wedi’i dargedu, ac mae dros 1.5 miliwn o gwsmeriaid wedi cael eu pecynnau adnewyddu. Man ganddynt hyd at 31 Gorffennaf i adnewyddu neu ddiweddaru eu hawliad er mwyn gwneud yn siŵr bod eu taliadau yn parhau.
Mae CThEF yn annog cwsmeriaid i adnewyddu drwy ap CThEF – mae’n ffordd gyflym a hawdd o sicrhau eu bod yn parhau i gael y taliadau y mae ganddynt hawl iddynt.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
“Bydd y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu hawliadau am gredydau treth yma cyn pen dim, ac mae adnewyddu drwy ap CThEF yn ffordd gyflym a hawdd o wneud hynny. Mae’r ap yn cynnig sicrwydd i gwsmeriaid o ran cywirdeb a pharhad eu taliadau.”
Mae ap CThEF yn rhad ac am ddim, yn syml, yn ddiogel, ac yn galluogi cwsmeriaid i gael mynediad uniongyrchol at eu cyfrifon credydau treth ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen. Does dim rhaid ffonio CThEF na lenwi a phostio unrhyw ffurflenni mwyach.
Gall cwsmeriaid gael mynediad at wybodaeth am eu credydau treth drwy ap CThEF er mwyn:
- adnewyddu eu hawliad am gredydau treth
- diweddaru eu manylion personol
- rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau
- bwrw golwg dros eu hamserlen ar gyfer taliadau credydau treth, a’i gwirio
- bwrw golwg dros gofnod o daliadau mor belled
Mae CThEF wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEF i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.
Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEF yn rhad ac am ddim o’r siop apiau ar eu ffôn clyfar. Ar ôl lawrlwytho’r ap a mewngofnodi iddo, mae opsiynau i ddefnyddwyr sefydlu a dewis dull adnabod yr wyneb, dull adnabod ôl bys, neu bin 6 digid er mwyn cael mynediad cyflym a diogel i’w manylion.
Gall cwsmeriaid sy’n defnyddio ap CThEF hefyd wneud y canlynol:
- rheoli eu Budd-dal Plant yn ogystal â bwrw golwg dros eu tystiolaeth o hawl, bwrw golwg dros y 5 taliad diweddaraf, a diwygio’u manylion banc
- rheoli eu harian – gwirio’u tâl, gwirio’u cod treth a chael amcangyfrif o’u henillion
- dod o hyd i’w rhif Yswiriant Gwladol, a’i gadw
- cael pob neges a llythyr gan CThEF, a’u cadw
- gosod nodynnau atgoffa i dalu Hunanasesiad
- creu cyfrif Cymorth i Gynilo
Gall cwsmeriaid hefyd fwrw golwg dros eu hawliadau am gredydau treth, eu hadnewyddu a’u rheoli ar-lein yn GOV.UK.
Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol
Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Bydd cwsmeriaid sy’n cael credydau treth yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), neu’r Adran Cymunedau (DfC) yng Ngogledd Iwerddon, yn rhoi gwybod iddynt pryd i hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn hawlio erbyn y dyddiad cau a ddangosir yn y llythyr er mwyn parhau i gael cymorth ariannol. Mae hyn oherwydd bydd eu credydau treth yn dod i ben hyd yn oed os ydynt yn penderfynu peidio â hawlio Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, nid oes angen aros am y llythyr hwn – gall cwsmeriaid wneud cais i symud draw i Gredyd Cynhwysol yn gynt, os hoffent.
Wrth i’r dyddiad cau nesáu ar gyfer adnewyddu, gall cwsmeriaid fod yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan sgamwyr. Mae CThEF yn eu rhybuddio i bwyllo os bydd rhywun yn cysylltu â nhw gan honni ei fod yn gweithio i CThEF ac yn gofyn iddynt drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol. Mae sgamiau treth yn gallu amrywio. Mae rhai yn cynnig ad-daliad, mae rhai yn honni bod yn rhaid i chi ddiweddaru hen fanylion, ac mae rhai hyd yn oed yn bygwth eich arestio am osgoi treth. Mae CThEF hefyd yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu’u manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF ar unrhyw adeg – gall rhywun ddefnyddio’r manylion hyn i gyflawni twyll. Cynghorir cwsmeriaid i wirio cyngor CThEF ynghylch sgamiau ar GOV.UK.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Mae’n bosibl yr hoffech ddarllen hefyd am Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg – Newyddion Cyngor Wrecsam