Yn Ionawr 2021, cafodd rhai o’n tenantiaid yn Caego a Pontfadog lifogydd dychrynllyd yn eu heiddo; gyda rhai yn gorfod symud i eiddo arall oherwydd y difrod sylweddol a achoswyd.
Rydym yn gwybod nad oes unrhyw angen yr anghyfleustra, ac mae gorfod symud allan o’ch cartref, heb eich pethau o’ch cwmpas yn ofidus, fodd bynnag, yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, gall fod hyd yn oed yn fwy anodd a gofidus.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae ein swyddfeydd ystâd tai wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi tenantiaid a effeithiwyd gan y llifogydd hyn, gan gynnal galwadau lles a sicrhau bod y rhai sydd wedi gorfod symud allan wedi setlo ac yn gyffyrddus. Mae ein tîm atgyweirio a chynnal a chadw mewnol wedi bod yn gweithio’n galed i adfer yr eiddo cyn gynted â phosib. Hyd yn hyn, maent wedi cwblhau gwaith ar 70% o’r eiddo a effeithiwyd, gyda’r gwaith terfynol i’w gwblhau’n fuan iawn.
Dywedodd tenant a effeithiwyd gan y llifogydd “Mae’r tîm atgyweirio wedi bod yn wych ac mae swyddfa ystâd Brychdyn wedi cynnig cefnogaeth i mi yn syth a dal yn fy nghefnogi yn awr, rwyf wir yn ei werthfawrogi.”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol ar gyfer Tai “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff am ymdrin â’r materion anodd hyn yn syth.”
Gwaith gwych gan yr holl staff gwasanaethau tai, yn cadw ein tenantiaid yn ddiogel a sicrhau eu bod yn ôl yn eu cartrefi cyn gynted â phosib.
CANFOD Y FFEITHIAU