Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Terfyn cyflymder 20mya yn dechrau dydd Sul
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Terfyn cyflymder 20mya yn dechrau dydd Sul
Y cyngorPobl a lle

Terfyn cyflymder 20mya yn dechrau dydd Sul

Diweddarwyd diwethaf: Medi 13, 2023 3:32 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
20mph
RHANNU

Fe fydd cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya yn ddiofyn yng Nghymru yn dod yn fyw ddydd Sul, gan olygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl.

Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn paratoi ar ffyrdd Wrecsam i sicrhau fod popeth yn eglur pan fyddwch yn gyrru yn y fwrdeistref sirol.

Ddechrau’r wythnos hon roedd gwaith wedi ei wneud ar 95% o’r arwyddion ac mae’n bosibl eich bod wedi sylwi fod y marciau 30mya ar y ffyrdd wedi eu tynnu neu y paentiwyd drostynt wrth i’r dyddiad lansio y penwythnos hwn nesáu.

O ddydd Sul Medi 17 ymlaen bydd y terfyn cyflymder newydd hwn fwyaf perthnasol i strydoedd preswyl neu strydoedd prysur gyda cherddwyr, felly pan welwch chi olau stryd fe ddylech dybio mai 20mya yw’r terfyn cyflymder, oni bai fod yna arwyddion yn nodi fel arall.

Dywedodd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd:  “Mae timau o adran yr amgylchedd Cyngor Wrecsam wedi bod allan yn newid yr arwyddion ers dros dri mis yn barod ar gyfer Medi 17 ac rydym ni bron yna rŵan. Mae’r ymgynghoriadau ar unrhyw eithriadau a oedd yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru hefyd wedi eu cwblhau ac fe hoffwn ddiolch i’r holl breswylwyr hynny a dreuliodd amser yn rhoi eu safbwyntiau i ni.”

Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru a thudalen we cyfyngiadau cyflymder 20mya yng Nghymru Cyngor Wrecsam.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wales in Bloom Gwobr aur i Wrecsam yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau
Erthygl nesaf Waterworld Gŵyl Fwyd Wrecsam – Maes Parcio Byd Dŵr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English