Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tipio un bob munud!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Tipio un bob munud!
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Tipio un bob munud!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 24, 2019 11:44 am
Rhannu
Darllen 3 funud
one tipped every minute
RHANNU

Mae cyfwerth â lori bin llawn plastig yn cael ei dipio i foroedd y byd bob munud!

Ond rydym yn dibynnu cymaint ar blastig fel nad ydym yn sylwi faint yr ydym yn ei ddefnyddio – mae cyngor eco Ysgol y Rofft wedi camu i mewn i ddangos i’w cyd-ddisgyblion faint o blastig y maent yn ei ddefnyddio.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Ar 14 Tachwedd, daeth y disgyblion a’u byrbrydau arferol i’r ysgol ar gyfer amser egwyl y bore, rhoi eu sbwriel yn y bin fel yr arfer ac yna aeth y cyngor eco drwy’r sbwriel i wahanu’r holl blastigion un defnydd.  Wythnos yn ddiweddarach ar 21 Tachwedd, cyflwynwyd her i’w hathrawon a’u cyd-ddisgyblion i beidio â defnyddio plastigion un defnydd.  Edrychwch ar y gwahaniaeth o ran faint o blastig a gasglwyd!

Tipio un bob munud!
Tachwedd 14 – diwrnod arferol
Tipio un bob munud!
Tachwedd 21 – diwrnod dim plastig un defnydd

Cyn y diwrnod dim plastig un defnydd, cynhaliodd y cyngor eco wasanaeth am blastigion ac egluro pam eu bod yn cyflwyno’r her ac maent yn edrych am ddulliau o gynnal brwdfrydedd gyda phosteri a lluniau sy’n dangos effaith plastig ar yr amgylchedd.

Roedd y plant yn fodlon iawn bod pawb wedi cyfranogi ac wedi’u synnu o weld y gwahaniaeth rhwng y symiau o sbwriel ar y ddau ddiwrnod.  Dyma ychydig o safbwyntiau gan y plant eu hunain:

“Rwy’n credu y dylem wneud diwrnod dim plastig un defnydd yn amlach oherwydd roedd y gwahaniaeth o ran sbwriel yn anhygoel”

“Roeddwn wedi fy synnu o weld faint o blastig gafodd ei gynhyrchu mewn un amser chwarae, ddydd Iau 14 Tachwedd. Ar y diwrnod dim plastig roedd gwahaniaeth mawr!”

“Bythefnos yn ôl roeddem yn defnyddio mwy o blastig na’r wythnos ddiwethaf!”

“Roeddwn yn hoffi bod pawb wedi gwrando yn ein gwasanaeth am blastig ac wedi trio’n galed ar y diwrnod dim plastig”

“Ar y diwrnod dim plastig roedd chwarter y swm arferol o sbwriel.  Gobeithio y bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth bach i’n hamgylchedd!”

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Roedd hon yn ffordd wych o ddangos faint o blastig sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd, yn ddiangen. Roedd y plant gwir yn meddwl am ddewis byrbrydau heb blastig (fel ffrwythau) neu sut mae swmp-brynu yn lleihau’r faint o blastig sy’n cael ei ddefnyddio (er enghraifft, prynu pot mawr o iogwrt a’i gludo i’r ysgol yn Tupperware). Da iawn i’r holl ddisgyblion a staff, a diolch i’r rhieni am gymryd rhan.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Testun Ychwanegol BBN Testun Ychwanegol BBN
Erthygl nesaf H Cystadleuaeth Harry Potter Gyffrous!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English