Bydd Virgin Media’n gweithio ar Ffordd Melin y Brenin a Ffordd Sir Amwythig rhwng ffordd gyswllt San Silyn a Ffordd Bryn-y-Cabanau yn mis Awst.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn dau gymal.
Bydd y cymal cyntaf, sy’n dechrau ddydd Llun 12 Awst, yn para pum diwrnod ac yn cynnwys Ffordd Sir Amwythig, rhwng ffordd gyswllt San Silyn a Ffordd Salisbury.
Bydd ail gymal y gwaith yn dechrau ddydd Llun 29 Awst ac mae disgwyl iddo bara 12 diwrnod, rhwng Ffordd Salisbury a Ffordd Bryn-y-Cabanau.
Bydd system unffordd yn ystod y gwaith, yn caniatáu i draffig symud tuag at ganol tref Wrecsam, gyda gwyriadau addas yn mynd â thraffig o amgylch y gwaith.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]