Wedi meddwl am faethu erioed?
Os felly, hoffai Gwasanaeth Maethu Wrecsam glywed gennych chi. Maen nhw’n chwilio am ofalwyr maeth posibl sy’n ymroddedig i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’n bwysig cadw plant yn eu hardaloedd lleol er mwyn sicrhau cysondeb o ran ffrindiau ac ysgolion.
Mae gofalwyr maeth yn creu cartrefi diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc ond, yn Wrecsam, mae arnom ni angen mwy o bobl i ddangos diddordeb.
Os oes arnoch chi eisiau gweld a yw hyn yn addas i chi, dewch draw i’n noson wybodaeth maethu.
Noson wybodaeth alw heibio’r gwasanaeth maethu
Ble: Canolfan Adnoddau Acton, Rhodfa Owrtyn, Wrecsam, LL12 7LB
Pryd: Dydd Iau 20 Chwefror
5pm – 7pm
Mwy o wybodaeth!
- Cyfle i gael gwybodaeth
- Cyfle i sgwrsio â gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth
- Canfod a ydych chi’n gallu maethu
Darperir Lluniaeth
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN