Bod dydd yn ystod yr wythnos dwethaf, rydym wedi bod yn cyhoeddi ffaith ailgylchu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Rhag ofn eich bod wedi eu methu, dyma drosolwg sydyn i chi…
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Ffaith 1: Oeddech chi’n gwybod y gellir ailgylchu gwydr dro ar ôl tro?
Ffaith 2: Gallwch ailgylchu eich hen haearn smwddio neu rai sydd wedi eu torri drwy fynd â nhw i unrhyw rai o’n Canolfannau Ailgylchu.
Ffaith 3: Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu poteli plastig, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu poteli siampŵ a channydd o’ch ystafell ymolchi?
https://twitter.com/cbswrecsam/status/1049932895501074432
Ffaith 4: Gall 25 o boteli pop dau litr gael eu hailgylchu i greu siaced fflîs maint oedolyn.
Ffaith 5: Gall caniau tun, teiars car, esgidiau rhedeg, cwpanau ewyn i ddal coffi a lledr gymryd dros 50 o flynyddoedd i ddadelfennu.
Ffaith 6: Mae mwy a mwy ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig. Mewn gwirionedd y llynedd fe ailgylchodd pobl Wrecsam yr hyn sy’n gyfystyr o ran pwysau â 150 o’n cerbydau casglu ailgylchu.
Ffaith 7: Cafodd 650 tunnell o garpedi eu hailgylchu yn Wrecsam y llynedd.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU