Pob dydd ym mis Mawrth rydym ni wedi cyhoeddi ffaith am ailgylchu ar ein tudalennau Facebook a Twitter.
Rydym ni wedi cyhoeddi erthygl yn mynd â chi drwy ffeithiau 1-10, ac rydym ni hefyd wedi cyhoeddi ffeithiau 11-20, felly dyma rannu ffeithiau 21-30 efo chi…
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Ffaith 21: Llwyddodd pobl ar draws Wrecsam i gyrraedd cyfradd ailgylchu, compostio ac ailddefnyddio o 65.44% ar gyfer 2017/18.
Ffaith 22: Gellir ailgylchu bylbiau golau sy’n arbed ynni yn ein holl Ganolfannau Ailgylchu.
Ffaith 23: Mae jariau gwydr a photeli’n cymryd hyd at 2 filiwn o flynyddoedd i ddadelfennu.
Ffaith 24: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu caniau aerosol a ffoil glân ar ymyl y palmant. Mae’n haws nac erioed!
Ffeithiau am ailgylchu: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu caniau aerosol a ffoil glân ar ymyl y palmant. Mae’n haws nac erioed! #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/dlnGC5pUth
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 24, 2019
Ffaith 25: Oeddech chi’n gwybod y gellir ailgylchu gwydr dro ar ôl tro?
Ffaith 26: Gallwch ailgylchu eich hen haearn smwddio neu rai sydd wedi eu torri drwy fynd â nhw i unrhyw rai o’n Canolfannau Ailgylchu.
Ffeithiau am ailgylchu: Gallwch ailgylchu eich hen haearn smwddio neu rai sydd wedi eu torri drwy fynd â nhw i unrhyw rai o’n Canolfannau Ailgylchu #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/P9wAnZZkpq
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 26, 2019
Ffaith 27: Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu poteli plastig, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch ailgylchu poteli siampŵ a channydd o’ch ystafell ymolchi?
Ffeithiau am ailgylchu: Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu poteli plastig, ond oeddech chi'n gwybod y gallwch ailgylchu poteli siampŵ a channydd o’ch ystafell ymolchi? #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/w2NSLQ2Z8Q
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 27, 2019
Ffaith 28: Gall 25 o boteli pop dau litr gael eu hailgylchu i greu siaced fflîs maint oedolyn.
Ffaith 29: Gall caniau tun, teiars car, esgidiau rhedeg, cwpanau ewyn i ddal coffi a lledr gymryd dros 50 o flynyddoedd i ddadelfennu.
Ffaith 30: Mae mwy a mwy ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig. Mewn gwirionedd y llynedd fe ailgylchodd pobl Wrecsam yr hyn sy’n gyfystyr o ran pwysau â 150 o’n cerbydau casglu ailgylchu.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU