Yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol bydd gofyn i aelodau gymeradwyo “Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru”.
Mae’r Strategaeth yn cydnabod y rolau allweddol y mae gofalwyr o bob oedran yn eu chwarae yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol a’r angen i’w gwerthfawrogi am eu cefnogaeth yn eu rôl hanfodol. Mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth â gofalwyr trwy gydol yr amser y maent mewn cysylltiad â’r gwasanaeth.
Ond nid yw pob un yn ystyried eu hunain yn ofalwyr. Mae rhai yn disgrifio eu hunain fel rhiant, gŵr, gwraig, partner, mab, merch, brawd, chwaer, ffrind neu gymydog, yn hytrach na gofalwr.
Mae rhiant ofalwr yn rhiant neu warcheidwad sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol tuag at eu plentyn oherwydd bod ganddo/ganddi salwch neu anabledd. Yn aml mae rhiant ofalwyr yn gweld eu hunain fel rhieni yn hytrach na gofalwyr ond mae’n bosibl y bydd angen gwasanaethau ychwanegol arnynt er mwyn diwallu neu barhau i ddiwallu anghenion eu plentyn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Fel gofalwr gallant elwa o ystod o wasanaethau gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Gallant hefyd gael cefnogaeth unigol, ymuno â grwpiau cymorth, fforymau, caffis, derbyn cefnogaeth emosiynol, cwnsela, hyfforddiant, therapïau, cyngor am fudd-daliadau, seibiant i ofalwyr, gweithgareddau cymorth cyfoedion, eiriolaeth, taliadau uniongyrchol, cefnogaeth a grantiau.
Mae’r Strategaeth fodd bynnag yn edrych y tu hwnt i’r gwasanaethau, mae wedi ymgymryd â’r hyn y mae’r gofalwyr eu hunain wedi’i ddweud sef bod angen cefnogaeth ddibynadwy o safon i’r person sy’n derbyn gofal sy’n hollbwysig ac yn cyfrannu at eu lles fel gofalwyr. Maent hefyd wedi dweud eu bod wirioneddol yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth o gefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau’r trydydd sector.
Maent hefyd wedi dweud eu bod yn gwerthfawrogi cael rhywun yn gwrando arnyn nhw, cael eu cydnabod, eu parchu a’u clywed gan bobl sy’n gyfrifol am lunio a darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a’r person y maent yn gofalu amdano / amdani.
“Bellach yn meddwl fel gofalwyr”
Cyflwynir yr adroddiad gan y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a meddai: “Wrth edrych trwy lygaid y gofalwyr rydym wedi cael cipolwg go iawn ar eu hanghenion. O ganlyniad, mae gwasanaethau bellach yn meddwl fel y byddai gofalwyr yn meddwl ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau a gweithio gyda nhw i gynhyrchu gwasanaethau o amgylch eu hanghenion. Mae’r Strategaeth yn gam go iawn ymlaen i wella lles y grŵp anhygoel hwn o bobl sy’n gwneud gwaith rhagorol ac anhunanol wrth ofalu am eu hanwyliaid.”
Cynhyrchwyd y Strategaeth ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru, Barnardo’s Cymru, Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam, Hafal, Gwasanaeth Allgymorth Gofalwyr, Gweithredu dros Blant a Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych.
Gallwch ddarllen Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn llawn yma
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN