Gyda’r newyddion bod y cyfyngiad teithio 5 milltir yn cael ei lacio ar draws Cymru, fe’ch anogir i gyd i ddychwelyd i ganol y dref sydd Ar Agor am Fusnes er mwyn cefnogi masnachwyr lleol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg ar ôl gorfod cau eu busnesau oherwydd pandemig Covid-19.
Maen nhw gyd yn aros i’ch croesawu yn ôl:
Mae siopau wedi cymryd rhagofalon ychwanegol i sicrhau fod mesurau hylendid a chadw pellter cymdeithasol ar waith, a bydd canol y dref yn edrych yn wahanol.
Mae arwyddion wedi cael eu gosod ar bolion lamp ac ar y llawr i helpu cadw pellter cymdeithasol ac mae system unffordd ar waith ar hyd Stryt y Bonc gyda mynediad o Stryt yr Hôb i Stryt Henblas.
Fe fydd yna wardeiniaid o amgylch y dref i’ch atgoffa i aros yn ddiogel drwy’r amser.
Mae Tŷ Pawb, y Farchnad Gyffredin a Marchnad y Cigyddion wedi agor ac mae system un ffordd ar waith ac mae arwyddion addas i atgoffa pobl i gadw pellter cymdeithasol wedi’u lleoli o amgylch yr adeiladau.
Fe fyddwn yn cadw golwg fanwl ar y niferoedd yn yr adeiladau ar unrhyw adeg, ac fe fydd aelod o staff wedi’i ll/leoli ger mynedfa pob adeilad i gyfarch ac i roi arweiniad i bobl. Mae gorsafoedd diheintio dwylo ger y fynedfa i bob adeilad. Fe fydd toiledau Tŷ Pawb ar agor ond fe fydd yna gyfyngiadau ar y niferoedd fydd yn cael mynd mewn ar unrhyw adeg.
Mae’r toiledau ar Stryt Henblas bellach wedi ailagor gydag amodau diogelwch ar waith, ac maent ar agor rhwng 9am a 4.30pm. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:
Mae parcio yng nghanol yn dref yn parhau i fod yn rhad ac am ddim tan ddiwedd mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae’n newyddion ardderchog i fasnachwyr canol y dref sydd yn amlwg wedi bod yn bryderus iawn am eu busnesau yn ystod y cyfnod clo llym iawn.
“Rŵan yw’r amser i ailagor ac i bawb ohonom eu cefnogi. Rydw i wedi ymweld â chanol y dref a’r marchnadoedd, a chafodd optimistiaeth y masnachwyr argraff arnaf i wrth iddynt baratoi i groesawu cwsmeriaid hen a newydd yn eu holau.
“Mae staff wedi gweithio’n galed yn ein marchnadoedd ac yng nghanol y dref i sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r masnachwyr, ac fe fyddwn ni’n edrych ar fesurau pellach y gallwn eu cymryd i gynorthwyo’r broses adfer wrth i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiadau pellach am y busnesau sydd yn cael ailagor.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus tra byddwn ni allan, mae feirws Covid-19 yn dal i fod yma, a does neb eisiau gweld y cyfnod clo yn dychwelyd gan ein bod wedi gwneud cymaint o gynnydd. Fe hoffwn ddiolch i bawb, o fasnachwyr i staff a’r cyhoedd am eu hystyriaeth a sylw i iechyd a diogelwch pawb sydd yn ymweld â chanol y dref”.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydw i’n arbennig o falch fod masnachwyr yn Nhŷ Pawb yn gallu ailagor ynghyd â gweddill busnesau canol y dref. Mae ganddynt gwsmeriaid triw a chefnogol a fydd yn hapus iawn o allu dychwelyd dwi’n siŵr, gan weld yr holl fesurau diogelwch sydd wedi cael eu cyflwyno er diogelwch pawb”.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN