Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam yn ceisio diogelu’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu ar gyfer y dyfodol trwy gynnig mwy o gyfathrebu digidol i’r rhai y mae’n well ganddynt ddefnyddio dull digidol. Mae’r dull y mae pob unigolyn yn ei ffafrio ar gyfer gohebiaeth yn amrywio, felly mae’n bwysig bod yr Adran Dai yn nodi pwy sy’n gyfforddus yn defnyddio’r we, ac a fyddai’n ffafrio cyfathrebu fel hyn.
Y nod wrth anfon mwy o ohebiaeth yn ddigidol yw darparu gwasanaeth amserol ac effeithlon, a bydd cynyddu’r defnydd o ohebiaeth electronig yn caniatáu i’r Cyngor leihau costau postio a chostau argraffu, a galluogi deiliaid contract i dderbyn gwybodaeth yn fwy amserol.
Mae nifer o ffyrdd o gysylltu â’r Adran Dai ar-lein ac maen nhw wedi lansio eu ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am waith atgyweirio a ffurflen gais am dŷ yn ddiweddar.
Mae canlyniadau’r ffurflenni yn profi bod ein deiliaid contract yn defnyddio gwasanaethau ar-lein er mwyn rhoi gwybod am broblemau neu i wneud cais am dŷ.
Ym mis Ionawr yn unig, daeth mwy na 1,000 o adroddiadau i law’r Adran Dai trwy’r ffurflen atgyweirio ddigidol.
Mae sgiliau digidol pawb yn wahanol, ac mae rhai yn well na’i gilydd ac rydym yn deall ei bod yn bwysig ein bod ar gael i ddarparu cefnogaeth trwy swyddfeydd ystadau a thimau dyrannu wrth i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau digidol.
Mae’r Adran Dai yn cysylltu â’u deiliaid contract yn ddigidol mewn amryw ffyrdd eisoes. Mae hyn yn cynnwys rhannu newyddion trwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwasanaeth e-bost ‘newyddion tenantiaid’.
Mae defnyddio ‘newyddion tenantiaid’ yn caniatáu i’n deiliaid contract danysgrifio i gael newyddion sy’n benodol am dai yn uniongyrchol trwy e-bost.
Ydych chi’n ddeiliad contract gyda’r Cyngor ac am danysgrifio i’n gwasanaeth ‘newyddion tenantiaid’? Gallwch gofrestru’n hawdd yma
Eich dull cyfathrebu a ffefrir
Wrth i Adran Dai Wrecsam symud fwy at ohebiaeth ddigidol, bydd hyn wedi’i deilwra’n benodol at eich dewis personol chi. Os ydych chi’n Ddeiliad Contract gyda’r Cyngor (tenant y Cyngor), ac am nodi eich dull cyfathrebu a ffefrir ar gyfer y dyfodol, llenwch y ffurflen fer hon
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rydym am dargedu’r bobl sy’n gyfforddus ar-lein i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac amserol.
“Rydym yn cynnig cymorth trwy ein swyddfeydd tai a dyraniadau i’r rhai a allai fod angen cefnogaeth i gael mynediad at ein gwasanaethau digidol, os byddant yn dymuno gwneud hynny. Bydd dulliau arferol ar gael o hyd i’r rhai sy’n nodi y byddai’n well ganddynt gael gohebiaeth trwy lythyr neu alwad ffôn.”