Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Darganfyddwch sut mae’n cael ei daclo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Darganfyddwch sut mae’n cael ei daclo
Y cyngor

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Darganfyddwch sut mae’n cael ei daclo

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2022 9:54 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
RHANNU

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiad yn Tŷ Pawb ddydd Iau 21 Gorffennaf rhwng 12pm a 2pm pan fydd aelodau o’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn bresennol i ddangos yr hyn rydym yn ei wneud yn Wrecsam i leihau digwyddiadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Prawf Cymru. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol y trydydd sector.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Fel rheol gyffredinol, pan mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei adrodd fel problem, bydd ymyraethau yn cael eu cynnig i geisio lliniaru’r ymddygiad problemus. Ond os nad yw hyn yn cael ei dderbyn, mae nifer o ddeddfwriaethau y gall y bartneriaeth eu defnyddio, ac wedi eu defnyddio.

Mae’r ymyraethau hyn wedi cynnwys Gorchmynion Ymddygiad Troseddol, Hysbysiadau a Rhybuddion Amddiffyn Cymunedol  yn erbyn troseddwyr, Gorchmynion Cau ar eiddo a Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn lleoliadau problemus.

Mae gan bobl sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yr hawl i ofyn am adolygiad achos mewn amgylchiadau arbennig.  Defnyddir y Sbardun Cymunedol i adolygu achosion arbennig.  Y nod yw sicrhau bod lefelau priodol o orfodaeth a chefnogaeth naill ai ar waith, neu wedi cael eu hystyried.

Gall unrhyw ddioddefwr sydd wedi rhoi gwybod am dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis godi Sbardun Cymunedol a gwneud cais am adolygiad achos.  Gallwch ddarllen mwy am hyn yma

Dywedodd y Cyng. Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaeth a Diogelwch Cymunedol, “Gall Ymddygiad Gwrthgymdeithasol achosi i drigolion ac ymwelwyr deimlo’n anghyfforddus neu weithiau’n ofnus pan mae’n digwydd.

“Rwy’n annog pawb sy’n gallu mynychu’r digwyddiad, i fynd i weld yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei adrodd, sut mae’n cael ei daclo a sut i adrodd amdano fel y gall gama priodol gael eu cymryd.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Summer of Fun logo Dechreuwch yr Haf Llawn Hwyl gydag aelodaeth am ddim i’r gampfa
Erthygl nesaf Hot weather Bydd ein casgliadau gwastraff yn dechrau am 6am yfory (19.7.22)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English