Mae aelodau’r bwrdd gweithredol wedi cefnogi creu Gweithgor o Aelodau a Swyddogion ar yr Argyfwng Costau Byw, yn cynnwys 10 Aelod Etholedig ac sy’n wleidyddol gytbwys. Bydd y Gweithgor yn cyfarfod o fewn pythefnos. Pwrpas y grŵp yw cefnogi preswylwyr ar y cyd o ystyried y cynnydd sylweddol yng nghostau byw.
Meddai Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae’n gyfnod heriol iawn, ac rwy’n falch ein bod wedi sefydlu’r grŵp hwn. Byddwn yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i lobïo am gefnogaeth ariannol fel rhan o’r paratoadau ar gyfer yr argyfwng costau byw a’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Meddai David A. Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Tai: “Nid yn unig ein bod yn wynebu argyfwng tai, rydym yn wynebu heriau sylweddol gyda’r cynnydd mawr yng nghostau ynni. Rydym newydd ddechrau cyfarfod â Llywodraeth Cymru bob pythefnos, ac rŵan yw’r amser i sefydlu grŵp gyda holl aelodau’r cyngor drwy eu grwpiau er mwyn cydweithio i geisio cefnogi ein hetholwyr.
“Rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gallu cefnogi a dylanwadu arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn ystod cyfnod y gaeaf.”
Creu gweithgor costau byw i ystyried a chefnogi preswylwyr lleol yn y meysydd allweddol canlynol:
- Gwneud y mwyaf o fudd-daliadau
- Gostwng costau ynni
- Lleoedd Cynnes (wedi ei roi ar waith eisoes), dechrau ar 7 Hydref ym mhob llyfrgell
- Tlodi tanwydd
Pwysau’r gaeaf
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH