Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn yr Argyfwng Hinsawdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Y Cyngor yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn yr Argyfwng Hinsawdd
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Y Cyngor yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud yn yr Argyfwng Hinsawdd

Diweddarwyd diwethaf: 2019/09/26 at 3:32 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate Emergency Wrexham
RHANNU

Ddoe, edrychodd cyfarfod o’n Cyngor llawn ar a ddylai Wrecsam ddatgan argyfwng hinsawdd ai peidio, yn unol ag awdurdodau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.

Rydym wedi gwneud llawer o waith i gyflawni ein rhwymedigaethau amgylcheddol a chyfyngu ar ein defnydd o danwydd ffosil yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys:

  • Gosod mwy na 2,600 o baneli solar ar dai cyngor;
  • Dylunio, gosod a chynnal a chadw fferm solar 2.64 MW gyntaf Cymru sy’n eiddo gyngor;
  • Gosod solar PV ar ddwy swyddfa gyngor ac 17 ysgol;
  • Gosod boeler biomas ar raddfa fawr yn un o’n safleoedd swyddfeydd mawr
  • Uwchraddio goleuadau mewnol mewn mwy na 30 o ysgolion a swyddfeydd.
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn pum maes parcio cyhoeddus, a chodi tâl yn y gweithle mewn dau faes parcio swyddfa – yn ogystal ag ychwanegu pum cerbyd trydan i mewn i fflyd y Cyngor.
  • Parhau i groesawu technolegau digidol a lleihau’r ddibyniaeth fewnol ar ddogfennau papur
  • Sefydlu grŵp prosiect i leihau plastig untro ar draws yr holl adeiladau ac ysgolion
  • Ailosod 4,000 o oleuadau, gydag 8,000 arall i’w cwblhau mewn 16 mis, gan arbed ynni wrth dorri lawr ar garbon a lleihau costau cynnal a chadw
  • Sicrhau bod y cyflenwad ynni corfforaethol i swyddfeydd yn dod oddi wrth ddarparwyr ynni adnewyddadwy

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Er bod ein record yn dangos y byddwn yn gweithio’n galed fel awdurdod i fynd i’r afael â’r materion sy’n codi o newid yn yr hinsawdd a defnyddio tanwydd ffosil, rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith y bydd angen wynebu llawer mwy o heriau yn y dyfodol.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Rydym hefyd yn gwybod bod hwn yn fater o bryder cyhoeddus yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Yn ogystal ag ymgyrchoedd rhyngwladol parhaus gan grwpiau amgylcheddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru yn ddiweddar, a amlygodd gynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.

“Gyda hynny mewn golwg, rydym am edrych ar ffordd ymlaen, a sut y gallwn, wrth ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, adeiladu ar ein hymrwymiad i ddatblygu ein cynllun gweithredu datgarboneiddio, a gytunwyd yn unfrydol yn y Cyngor llawn ym mis Mai eleni.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae gennym hanes sefydledig o weithio i gyfyngu ar ein heffaith amgylcheddol fel awdurdod, ac rydym yn gwybod bod heriau pellach ar y ffordd.

“Mae gennym nifer o ymrwymiadau sefydledig yn unol â’r nodau hyn, gan gynnwys lleihau ein hallyriadau a chanolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol ein hadeiladau, trafnidiaeth, defnydd tir a gweithdrefnau a chonfensiynau ynghylch sut rydym yn caffael ein gwasanaethau.

“Mae’r rhain yn feysydd blaenoriaeth sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer Llywodraeth Cymru a mwyafrif awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys y rhai sydd eisoes wedi datgan argyfyngau hinsawdd.

“Rydym hefyd yn awyddus i ailedrych ar ein cynlluniau a’n hymrwymiadau, ac o’r herwydd byddwn – ar ôl datblygu a chraffu’n llawn – yn adolygu ein cynllun gweithredu datgarboneiddio ym mis Mai y flwyddyn nesaf.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau i fywyd Sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau i fywyd
Erthygl nesaf Leisure Centres Mae Freedom Leisure yn codi hwyl wrth godi arian ar Ddiwrnod y Byd Ar Gyfer y Galon

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English