Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y diweddaraf: Digwyddiad yn Y Waun 16.01.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y diweddaraf: Digwyddiad yn Y Waun 16.01.20
ArallY cyngor

Y diweddaraf: Digwyddiad yn Y Waun 16.01.20

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 16, 2020 4:34 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Chirk
RHANNU

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn parhau ar y safle yn Y Waun gan ymdrin â’r mannau gwaethaf a’r gobaith yw y bydd y gwaith o fynd i’r afael â’r digwyddiad yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Kronospan er mwyn i’w gweithwyr barhau i ymdrin ag unrhyw ddeunydd yn y dyfodol agos.

Roedd yr holl asiantaethau yn cytuno fod hwn yn ddigwyddiad sylweddol ac o ganlyniad cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod â gorsaf fonitro llygredd symudol arbenigol i fyny o Dde Cymru i’w leoli yn Y Waun. Cafodd yr uned ei gosod yn hwyr nos Fercher 15 Ionawr ac mae data ansawdd yr aer yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Bydd swyddogion o Gyngor Wrecsam yn parhau i gydgysylltu gyda’r holl asiantaethau eraill ac yn ymdrechu i roi gwybod i breswylwyr am unrhyw faterion yn ymwneud â’r digwyddiad hwn.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau:

Os ydych chi mewn man sy’n cael ei effeithio gan fwg, arhoswch y tu mewn a chaewch y drysau a’r ffenestri, ond agorwch nhw eto er mwyn cael aer i mewn i’ch cartref ar ôl i’r mwg basio. Os oes rhaid i chi fod y tu allan, osgowch yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan fwg neu ludw, neu cyfyngwch yr amser y byddwch chi’n ei dreulio tu allan. Dylai modurwyr sy’n teithio drwy’r mwg gadw eu ffenestri ar gau, diffodd y system aerdymheru a chadw tyllau aer y car ar gau.

Gall mwg lidio llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid gan arwain at dagu a brest dynn, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall hyn hefyd olygu fod problemau megis asthma yn gwaethygu; dylai pobl sydd ag asthma gario eu hanadlydd gyda nhw drwy’r amser.

Gall arogleuon sy’n gysylltiedig â thanau achosi dicter, straen a phryder, cyfog, cur pen neu benysgafnder. Mae’r rhain yn adwaith cyffredin i arogleuon, yn hytrach nac i’r sylweddau sy’n achosi’r arogl. Fe allwn ganfod arogleuon ar lefelau sydd yn llawer is na’r lefelau sy’n gallu achosi niwed i iechyd.

Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu symptomau gysylltu â’u Meddyg Teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Mae’r symptomau’n diflannu’n gyflym fel arfer ac ni ddylent arwain at broblemau iechyd hirdymor.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi awydd defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu gwaith celf? Ydych chi awydd defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu gwaith celf?
Erthygl nesaf P Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English