Mae 51% o fusnesau yn tyfu’n gyflymach gyda gwefan, felly pam nad ydych chi ar-lein eto?
Mae’n anodd dadlau gyda’r ffeithiau, yn 2018 os ydych am roi hwb i’ch busnes am gost mor isel ag sy’n bosibl, mae angen i chi fod ar-lein.
Fodd bynnag, i rai, gall hon fod yn dasg frawychus neu heriol, neu efallai nad ydych yn gwybod lle i ddechrau! Yn ffodus, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yma i’ch helpu.
Mae eu gweithdy ‘Llwyddo gyda Gwefannau’ yn parhau drwy Ogledd Cymru a bydd yn dod i Wrecsam fis nesaf.
Byddwch yn dysgu gwybodaeth hanfodol gan y siaradwyr profiadol, o ddylunio gwefan a fydd yn cynhyrchu gwerthiant, ysgrifennu cynnwys sy’n sefyll allan ac awgrymiadau SEO fel bod eich gwefan yn ymddangos yn uchel mewn peiriannau chwilio.
“Gweithdy Rhagorol”
Gan fod y gweithdy wedi rhedeg ers peth amser bellach, mae adborth da wedi dod gan y rhai mae wedi’u helpu, gydag un sylw yn dweud bod y cwrs yn “rhoi mewnwelediad da ac roedd yr hyfforddwr yn barod i helpu”. Gallwch weld drosoch eich hun faint gallwch fanteisio, yn Wrecsam ar 27 Mehefin ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Felly os hoffech fanteisio a lansio eich busnes i’r lefel nesaf drwy fynd amdani ar-lein, cysylltwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau neu cliciwch yma.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL