Ydych chi erioed wedi meddwl yr hoffech greu rhywbeth, er nad ydych yn teimlo’n ddigon ‘artistig’?
Os ydych, mae gan lyfrgell Brynteg y grŵp perffaith ar eich cyfer chi.
Mae grŵp celf y llyfrgell yn cyfarfod ar ddydd Iau cyntaf y mis a chewch ddysgu technegau newydd i greu beth bynnag yr hoffech. Nid oes angen profiad blaenorol na thalent.
Mae’r sesiynau yn costio £2 ac yn cael eu cynnal rhwng 2-3pm. Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Iau, 4 Gorffennaf.
Am ragor o fanylion, ffoniwch y llyfrgell ar 01978 789523.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]