Yn Wrecsam, mae tîm hwyluso gofal diwedd oes MacMillan, BIPBC a Chyngor Wrecsam wedi cynorthwyo ‘Rhaglen Addysg Chwe Cham o Ofal Lliniarol a Diwedd Oes’, ar gyfer staff mewn Cartrefi Nyrsio.
Mae’n bwysig bod unigolion mewn cartrefi gofal yn cael dweud eu dweud am eu dewisiadau gofal, ac mae’r rhaglen addysg yma’n galluogi staff i gefnogi unigolion gydag urddas, sensitifrwydd a thrugaredd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Derbyniodd y Cartrefi Gofal a fu’n rhan o’r fenter eu tystysgrif ar ran eu sefydliadau mewn seremoni yn Neuadd y Dref yn ddiweddar.
Mae cartrefi nyrsio yn chwarae rôl hanfodol yng ngofal pobl hŷn ar ddiwedd eu hoes. Maent yn darparu gofal lliniarol i 16% o’r boblogaeth, ac mae’r ffigwr hwn yn cynyddu i 30% i rai dros 85 mlwydd oed. Mae’n hanfodol bwysig felly bod y gweithlu’n cael ei hyfforddi i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes.
“Cysur a chymorth”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:
“Yn anffodus, mae’n rhaid i bawb ohonom ar ryw adeg baratoi am farwolaeth un o’n hanwyliaid. Bydd gallu siarad gyda gofalwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn y maes hwn yn gysur ac yn gymorth i deuluoedd. Fe hoffwn ddiolch i’r bobl sydd wedi cyflwyno’r rhaglen hon am eu hymroddiad a sensitifrwydd tuag at y pwnc anodd hwn, ac i’r cartrefi gofal sydd yn croesawu’r fenter.”
Yn ganolbwynt i’r rhaglen Chwe Cham, mae enwebu staff ym mhob lleoliad gofal a fydd yn cefnogi gofal lliniarol a diwedd oes.
Y cartrefi gofal yn Wrecsam a fu’n rhan o’r hyfforddiant oedd Plas Rhosnesni, Cae Bryn, Highfield/Bryn Bella, Llangollen Fechan, Bodlondeb a Neuadd Gwastad.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI