Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon…
ArallY cyngor

Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 18, 2018 12:22 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Sut fath o rôl mae’r sector gwirfoddol yn chwarae mewn argyfwng? Darllenwch hon…
RHANNU

Pan fo argyfwng, rydym i gyd yn disgwyl i’r heddlu, gwasanaeth tân a gwasanaethau iechyd chwarae rhan fawr. Mae’r cyngor lleol yn aml yn chwarae rhan fawr hefyd.

Beth sydd ddim mor amlwg, yw rôl grwpiau gwirfoddol yn ystod argyfyngau. Er enghraifft, gall y Groes Goch, tîm Achub Mynydd ac eraill chwarae rôl allweddol o ran delio ag argyfwng yn aml.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Yn ddiweddar iawn, gwnaeth grwpiau gwirfoddol o bob cwr o Ogledd Cymru gymryd rhan mewn digwyddiad i ganfod y gwasanaethau gallant eu darparu o ran cynllunio ar gyfer argyfwng ac o ran ymateb iddo. Maen nhw’n ased gwerthfawr iawn ac maen nhw’n ategu gwaith y gwasanaethau golau glas yn dda iawn.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard, sy’n Gadeirydd Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru: “Tra bod gan sefydliadau fel y gwasanaethau brys, cynghorau sir a byrddau iechyd drefniadau yn eu lle i gynllunio a delio gydag argyfyngau, mae gan y sector wirfoddol ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r cyrff statudol yma.

“Mynediad i offer arbenigol”

“Mae’r sector wirfoddol yn gallu cynnig amrediad o sgiliau a gwasanaethau wrth ymateb i argyfwng, o gymorth ymarferol fel cymorth cyntaf, mynediad at offer arbenigol, i help gyda chwnsela fel yr angen.

“Mae ymgysylltu gyda’r sector wirfoddol wrth baratoi ar gyfer argyfyngau posib o ran cynllunio, hyfforddi a chynnal ymarferiadau o fudd o ran sut yr ydyn ni’n ymateb pan mae argyfwng yn digwydd.

“Roedd y digwyddiad rhanbarthol yma yn cynnig cyfle gwych i’r cyrff rheini sydd â chyfrifoldeb statudol i ddeall yn well y gwasanaethau mae’r sector wirfoddol yn gallu ei gynnig ac yn gyfle i ni adeiladu ar y berthynas dda sydd eisoes yn ei le yn lleol. Diolch i bawb oedd ynghlwm gyda’r digwyddiad.”

Cafodd y digwyddiad i Amlinellu Gwasanaethau gan y Sector Wirfoddol yng Ngogledd Cymru ei drefnu gan y Fforwm Cydnerth Lleol. Mae’r fforwm yn dwyn ynghyd y cyrff allweddol sydd â chyfrifoldeb statudol i ymateb i neu gydweithredu gyda chyrff eraill pe byddai yna argyfwng.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol 5 ffordd i cadw ar y cyriad 5 ffordd i cadw ar y cyriad
Erthygl nesaf Wrexham FC Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English