Rydym yn falch o gael adrodd bod 13 o sefydliadau wedi mynegi diddordeb mewn bod yn “ganolfan glyd” dros y gaeaf, gyda chymorth y Grant Canolfannau Clyd.
Bydd eu ceisiadau’n cael eu prosesu cyn gyflymed ag y bo modd er mwyn cynyddu nifer y mannau y gall pobl fynd i gadw’n gynnes a chael cymorth a chyngor dros y gaeaf.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Costau Byw, “Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i fusnesau, trigolion a theuluoedd ledled y fwrdeistref sirol, ac mae’r Grŵp Costau Byw yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau ein bod yn cynnig cymorth a chyngor i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.
“Bydd ceisiadau i’r Gronfa Canolfannau Clyd yn cael eu prosesu’n fuan i sicrhau y gallant agor eu drysau i drigolion.
“Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio popeth sydd ar gael i chi.”
Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi
Mae Advicelink Cymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru all eich helpu i ganfod pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio i wneud yn siŵr eich bod yn “Hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi”.
Gallwch gysylltu ag un o’u cynghorwyr drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700 neu fynd i’w gwefan, lle gallwch chi ddysgu mwy am gael gafael ar gymorth. Mae eu llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.
Cyllid Partneriaeth Fwyd
Rydym hefyd yn gwneud cais am dros £90,000 o Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth Fwyd Traws-sector.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gyflogi “Cydlynydd Partneriaeth Fwyd” i ddod â systemau bwyd lleol a sefydliadau, gan gynnwys mentrau bwyd cymunedol, at ei gilydd i gynhyrchu cynllun gweithredu fel Partneriaeth Fwyd, i sicrhau cyflenwadau bwyd cynaliadwy a sicrhau diet iach i bobl a fydd yn arwain at lai o wastraff bwyd.
Ffonio â Thenantiaid Diamddiffyn
Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein Swyddogion Ystadau Tai wedi bod yn brysur yn ffonio â dros 2,000 o denantiaid hŷn a diamddiffyn, i gynnig cymorth a chefnogaeth yn ôl yr angen.
Os ydych chi’n denant ac yn cael trafferthion gyda chostau byw ar hyn o bryd, cysylltwch â’ch Swyddog Ystâd Dai i weld sut y gallant eich helpu.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI