O heddiw (Awst 28) ymlaen gallwch dalu ar-lein i gael casglu gwastraff o’ch bin gardd gwyrdd.
Os ydych yn dymuno parhau i’ch bin(iau) gwastraff gwyrdd gael eu casglu gallwch dalu ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Gellir talu hefyd drwy ffonio 01978 298989.
O ganlyniad i’r cyfnod clo, penderfynom barhau i wagio biniau gwastraff gardd o fis Ebrill gan y bu’n rhaid cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn sgil y cyfyngiadau mewn perthynas â theithio diangen, ond bydd y casgliadau a delir amdanynt yn awr yn cychwyn ar ddydd Llun, 31 Awst.
Bydd y ffi yn aros yr un fath – £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd. Ni fydd bin(iau) gwastraff gardd yn cael eu gwagu os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 31 Awst.
Os ydych eisoes wedi talu, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth
Os ydych eisoes wedi talu am y gwasanaeth gwastraff gardd yn gynharach yn y flwyddyn nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis hyd 31 Awst, 2021.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym wedi llwyddo i gadw’r gost mor isel â phosib, £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd, sy’n llai na nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr. Os ydych wedi talu am y gwasanaeth yn gynharach yn y flwyddyn byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis yn awtomatig o’r dyddiad cychwyn newydd.”
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN