Mae rhai ohonoch wedi bod yn holi am ein Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol felly roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb.
Ar hyn o bryd, rydym yn dal i aros am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru o ran Gwasanaethau Llyfrgell Deithiol.
Ein blaenoriaeth yw cynnal diogelwch staff a chwsmeriaid, a bydd hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth i ni wrth i ni symud ymlaen yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Rydym yn sylweddoli bod cwsmeriaid y llyfrgell deithiol yn awyddus i ddychwelyd a benthyca llyfrau llyfrgell. Rydym yn edrych ar sut gallwn ddarparu ‘gwasanaeth archebu a danfon’ mwy diogel ar draws y fwrdeistref sirol. Byddwn yn cynghori cwsmeriaid i ddefnyddio llyfrgelloedd cangen Wrecsam lle bo’n bosibl.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy’r blog newyddion hwn a thudalen Facebook y Llyfrgell.
Hoffem eich sicrhau bod eich llyfrau llyfrgell yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig, ac ni chodir tâl arnoch am unrhyw ddirwyon llyfrgell.
Os hoffech ymweld â llyfrgell cangen, ewch i www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd i gael manylion cyswllt
Nes bydd y Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol yn weithredol unwaith eto, cofiwch fanteisio ar y gwasanaethau ar-lein 24/7 ar gyfer eich holl anghenion darllen. Maen nhw i’w gweld ar y ddolen uchod.
YMGEISIWCH RŴAN